Part of the debate – Senedd Cymru am 5:28 pm ar 12 Rhagfyr 2017.
Diolch, Llywydd. Wrth i'r adolygiad blynyddol hwn ddechrau, mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yma i wneud Cymru yn lle tecach, ac fel y dywed, un o'i heriau allweddol yw dileu trais, cam-drin ac aflonyddu yn y gymuned.
Gan weithio ochr yn ochr â Jocelyn Davies o Blaid Cymru a'r Democrat Rhyddfrydol Peter Black, roeddwn i'n un o'r tri Aelod Cynulliad yn y Cynulliad diwethaf a ddaliodd Llywodraeth Cymru yn atebol ynglŷn â phasio Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. A bellach mae Cymorth i Ferched Cymru yn pryderu mai prin iawn yw'r arian o'r gyllideb iechyd a fydd yn cael ei fuddsoddi yn y cyrff hynny sy'n darparu gwasanaethau arbenigol o ran trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Byddwn felly yn cefnogi gwelliant 1 ac, yn y cyd-destun hwn, rwyf hefyd yn cynnig gwelliant 2, gan nodi bod angen gweithredu addewidion ehangach Llywodraeth Cymru a wnaed yn ystod hynt y Ddeddf er mwyn cyflawni nod y Comisiwn o gael gwared ar drais yn y gymuned.
Cynigiais welliannau wedyn yn galw am strategaethau cenedlaethol a lleol i ddiwallu anghenion rhyw-benodol o ran menywod a dynion. Roedd Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor yn argymell y dylai Gweinidogion Cymru sicrhau bod gwasanaethau wedi'u teilwra i anghenion penodol dynion a menywod fel ei gilydd. Fe wnaeth y Gweinidog wedyn wrthwynebu'r gwelliannau hyn, gan ddweud y bydd awdurdodau eisoes yn ystyried hyn wrth baratoi a gweithredu strategaethau cenedlaethol a lleol.
Wrth bwysleisio yr effeithir ar fenywod a merched yn anghymesur gan drais, mae'r Uned Diogelwch Cam-drin Domestig yn Shotton hefyd yn darparu gwasanaeth niwtral o ran rhyw, oherwydd maen nhw'n dweud bod cam-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithio ar y ddau ryw. Pan ymwelais â nhw yn ddiweddar, dywedwyd wrthyf fod pum person wedi eu cyfeirio at eu lloches dynion ar y diwrnod cyntaf er mai dim ond dau le oedd ar gael, ac y bu'n llawn byth ers hynny ac maen nhw ar hyn o bryd yn cadw rhestrau aros. Deallaf mai hwn yw'r unig loches i ddynion yn y Gogledd. Caiff ei ariannu ar hyn o bryd gan y Cyngor. Bydd yn cynorthwyo dioddefwyr tan fis Mawrth nesaf, gyda'r cyllid ar gyfer cefnogi dioddefwyr benywaidd dim ond ar gael am flwyddyn arall. Dywedodd Llywodraeth Cymru mewn ateb ysgrifenedig ataf fis diwethaf fod arolwg 2015 yn dangos bod 274 o leoedd lloches ar gael ledled Cymru, gyda phedwar yn Sir Drefaldwyn ar gyfer dynion.
Wedyn fe wnes i gynnig gwelliannau sy'n galw ar i'r strategaeth genedlaethol gynnwys darpariaeth ar gyfer o leiaf un rhaglen droseddwyr. Fel y dywedodd Relate Cymru wrth y Pwyllgor, roedd 90 y cant o'r partneriaid y gwnaethon nhw eu cwestiynu beth amser ar ôl diwedd eu rhaglen yn dweud bod y trais a'r bygythiadau gan eu partner wedi peidio'n llwyr.
Ymatebodd y Gweinidog nad oedd yn ystyried bod fy ngwelliannau i'n briodol, ond ei fod wedi cydariannu ymchwil i helpu i benderfynu sut yr eir ati yn y dyfodol i ymdrin â throseddwyr. Wel, fel y pwysleisiwyd yng nghyfarfod diwethaf y grŵp trawsbleidiol ar drais yn erbyn menywod a phlant, rhaglen Relate - Choose 2 Change - yw'r unig raglen wedi ei achredu gan Respect sy'n bodoli yng Nghymru ar hyn o bryd. Yfory, byddaf yn cadeirio cyfarfod y grŵp trawsbleidiol a fydd yn tynnu sylw at safon achrededig Respect ar gyfer gwaith gyda throseddwyr, ei bwyslais ar newid ymddygiad a rheoli risg, a hwnnw'n seiliedig ar dystiolaeth niferus, a'i bwyslais ar ddiogelwch goroeswyr a phlant.
Fe wnaethom frwydro'n galed i gynnwys addysg am gydberthnasau iach yn y Ddeddf. Fel y dywedais yn y ddadl ar Gyfnod 4, roedd y tair gwrthblaid wedi gweithio gyda'i gilydd i sicrhau consesiynau gan y Gweinidog, a dywedodd yntau wedyn y byddai'n cynnwys rhanddeiliaid o'r sector trais yn erbyn menywod yn y gwaith o ddatblygu cynigion ar gyfer addysg am gydberthnasau iach o fewn y cwricwlwm. Felly, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru, y Llywodraeth hon, gofio am addewid y Gweinidog wedyn i adrodd yn ôl i'r Cynulliad ynglŷn â hyn a rhaglenni i droseddwyr.
Rwy'n cynnig gwelliant 3, gan nodi'r cynnydd yn y troseddau casineb yng Nghymru sy'n cael eu cofnodi, gyda'r mwyafrif yn rhai sy'n ymwneud â hiliaeth, ond y cynnydd mwyaf yw troseddau casineb yn erbyn pobl anabl a thrawsrywiol, er bod hyn yn rhannol oherwydd cofnodi troseddau'n well a mwy o bobl yn dod ymlaen.
Yn olaf, rwy'n cynnig gwelliant 4, sy'n nodi bod
'ymdrechion y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i sicrhau bod cydraddoldeb a hawliau dynol yn cael eu hymgorffori yn y gwaith a gaiff ei wneud o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)'
2015—mae gwall ar y papur, dylai ddweud 2015—yr ymdrechion y manylir arnyn nhw yn eu hadroddiad blynyddol, a bydd angen, ac rwy'n dyfynnu,
'deialog wirioneddol rhwng cymunedau, unigolion a’u gwasanaethau cyhoeddus'
—diwedd y dyfyniad—y galwodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol amdani yn ei chynllun strategol drafft.
Yn yr un modd, mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn rhoi dyletswydd benodol ar awdurdodau cyhoeddus i hyrwyddo'r elfen o gynnwys pobl wrth gynllunio a darparu gofal a gwasanaethau cymorth. Ond dywedwch hynny wrth y gymuned fyddar yng Nghonwy na chawsant eu hannibyniaeth, wrth ddefnyddwyr cadair olwyn yn Sir y Fflint a gawsant eu hatal rhag defnyddio llwybr yr arfordir, ac wrth ddysgwyr anabl yng Nghymru a gawsant eu hamddifadu rhag gwneud prentisiaethau, pan ddechreuwyd 1.3 y cant o'r holl brentisiaethau ganddyn nhw, o'i gymharu â 9 y cant yn Lloegr. Mae llawer eto i'w wneud.