Part of the debate – Senedd Cymru am 5:33 pm ar 12 Rhagfyr 2017.
Rwy'n falch o siarad yn y ddadl hon heddiw â minnau'n Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. Mae'r Comisiwn, wrth gwrs, yn un o randdeiliaid allweddol y Pwyllgor. Rydym ni wedi mwynhau perthynas gadarnhaol ac adeiladol gyda nhw. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, maen nhw wedi dylanwadu'n uniongyrchol ar sawl darn o'n gwaith ni, gan gynnwys ein hadroddiad ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru. Yn fwy diweddar, roeddem yn falch o groesawu'r Prif Weithredwr i Gaerdydd, yn gynharach y tymor hwn, i glywed ei safbwynt ar hawliau dynol yng Nghymru ar ôl Brexit.
Rwy'n croesawu adolygiad blynyddol 2016-17 y Comisiwn, a gyhoeddwyd wrth i'r Comisiwn ddathlu 10 mlynedd ers ei sefydlu. Yn ystod yr amser hwnnw, mae eu gwaith yng Nghymru wedi cael effaith sylweddol, ac rwy'n ffyddiog y bydd hynny'n parhau. Hoffwn i hefyd, Llywydd, dalu teyrnged i'r rhan ganolog a chwaraeodd Kate Bennett, cyfarwyddwr cyntaf Cymru, yn ystod y 10 mlynedd hynny, a chroesawu hefyd Ruth Coombs, olynydd Kate. Rydym eisoes wedi cael y pleser o weithio gyda Ruth ers ei phenodi i swydd y cyfarwyddwr.
Felly, roedd yr adolygiad blynyddol ar gyfer 2016-17 yn manylu ar rai o lwyddiannau mwyaf arwyddocaol y Comisiwn, ac rwy'n credu ei bod yn deg dweud y cawson nhw eu gwireddu mewn hinsawdd wleidyddol heriol ac, yn wir, ansefydlog. Cyn symud ymlaen at rai o'r llwyddiannau hynny, roeddwn i eisiau sôn yn fyr am rai o'r ystadegau sy'n dangos yr heriau sy'n ein hwynebu: mae 32 y cant o holl blant Cymru yn byw mewn tlodi—mae 32 y cant o'n plant yn byw mewn tlodi; mae gweithwyr croenddu gyda gradd yn ennill 23.1 y cant yn llai ar gyfartaledd na gweithwyr croenwyn; ac yn 2014-15 roedd dysgwyr anabl wedi dechrau ar 1.3 y cant yn unig o'r holl brentisiaethau yng Nghymru. Felly, mae cynnydd sylweddol i'w wneud—rhagor o gynnydd i'w wneud. Ac, wrth gwrs, mae Brexit yn fframwaith hanfodol o ran sut yr ydym yn symud ymlaen ar y materion hyn a'r holl faterion sy'n ein hwynebu ni ar hyn o bryd.
Ar lefel y DU, roedd adroddiad y Comisiwn, 'Healing the Divisions' yn ymateb cadarnhaol i rai o'r materion allweddol o ran cydraddoldeb a hawliau dynol sydd wedi dod i'r amlwg ers refferendwm 2016, ac roedd yr adroddiad hwnnw'n gymorth i lywio ein gwaith ar hawliau dynol. Rydym yn cefnogi galwad y Comisiwn y dylid parhau i amddiffyn cydraddoldeb a hawliau dynol yn y DU i'r un graddau ag y gwneir yn awr, ac, yn y dyfodol, y dylai'r DU barhau i fod yn arweinydd byd-eang ar hawliau dynol a chydraddoldeb.
Fel pwyllgor, un o elfennau allweddol ein gwaith yn ystod y Cynulliad hwn yw tlodi yng Nghymru. Rydym yn edrych ar hyn mewn darnau amrywiol o waith ymchwil sy'n rhoi sylw i wahanol agweddau. Nododd yr ymchwil ddiweddaraf a gyhoeddwyd gan y Comisiwn fis diwethaf bod effaith gyffredinol y newidiadau i dreth a pholisi lles wedi bod yn gam yn ôl o ran cydraddoldeb. Mae aelwydydd lleiafrifol ethnig; aelwydydd gydag un neu fwy o bobl anabl; rhieni sengl; menywod; a phobl hŷn wedi gweld y gostyngiadau mwyaf sylweddol mewn incwm cartref o ganlyniad i'r polisïau hyn. Rydym hefyd yn gwybod o adroddiad 'UK poverty 2017' Sefydliad Joseph Rowntree fod Cymru yn gyson wedi gweld y lefelau uchaf o dlodi o blith pedair gwlad y DU. Yn ystod cyfnod adolygu 2016-17, cynhyrchodd y Comisiwn eu hadroddiad 'A yw Cymru'n decach?', a oedd yn nodi'r saith her allweddol o ran cydraddoldeb a hawliau dynol sy'n wynebu Llywodraeth Cymru. Mae'r rhain i gyd yn gysylltiedig â'r gwaith y mae'r pwyllgor, fy mhwyllgor i, yn gweithio arno o ran tlodi. Mae heriau penodol ynghylch yr angen i annog recriwtio, datblygu a gwobrwyo teg ym maes cyflogaeth; gwella amodau byw a chreu cymunedau cydlynus, a dileu trais, cam-drin ac aflonyddu yn y gymuned; a bydd y pwyllgor yn gwneud gwaith pellach o ran ein gwaith craffu yn sgil pasio Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.
Llywydd, mae sawl peth felly sy'n hynod o bwysig a sylweddol o ran gwaith y Comisiwn a'r gwaith y mae fy Mhwyllgor yn bwrw ymlaen ag ef, ac rydym yn gwerthfawrogi ein perthynas â nhw yn fawr iawn. Wedi ei gynnwys yn y gwaith y maen nhw'n ei gynllunio ar gyfer y dyfodol, ac sy'n berthnasol i'n gwaith ni, mae eu cyhoeddiad diweddar o ymchwiliad i drasiedi Tŵr Grenfell. Credaf ei bod yn arwyddocaol y byddan nhw'n sicrhau na chaiff agweddau ynglŷn â hawliau dynol a chydraddoldeb mewn perthynas â'r tân a'r amgylchiadau cysylltiedig eu hanwybyddu, a gobeithio y bydd hynny'n helpu i atal trychinebau rhag digwydd yn y dyfodol. Felly, rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at weld perthynas y Pwyllgor gyda'r Comisiwn yn parhau, Llywydd, dros y flwyddyn sydd i ddod ynglŷn â'r materion hyn sydd o ddiddordeb i ni ein dau.