7. Dadl: Adolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2016-17

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:54 pm ar 12 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 5:54, 12 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch iawn o gael siarad o blaid y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, gan gyfeirio'n arbennig at y bennod ynglŷn â gwella gweithleoedd Cymru. Nod penodol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw gwella gweithleoedd drwy weithio gyda chyflogwyr a thrwy hyrwyddo arferion effeithiol yn y gweithle o ran cydraddoldeb a hawliau dynol. Rwy'n croesawu'r glymblaid Gweithio Ymlaen a sefydlwyd gan y Comisiwn, gyda mwy nag 20 o sefydliadau yng Nghymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, wedi ymrwymo i ddenu, datblygu a chadw menywod yn y gwaith. Bydd hyn yn helpu i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau y mae menywod yn dal i'w hwynebu, gyda'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn 18.1 y cant ym Mhrydain. Dyma rai ystadegau eraill y maen nhw'n eu rhoi yn eu hadolygiad: mae 86 y cant o gyflogwyr Cymru yn dweud eu bod nhw'n gefnogwyr cadarn o staff benywaidd yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd, ond mae 71 y cant o famau yn dal i ddweud eu bod nhw'n cael profiadau negyddol neu, o bosibl, wahaniaethol yn y gwaith.

Mae'r ystadegau hyn yn dangos pa mor bell y mae angen inni fynd o hyd, a chefais fy atgoffa o hyn yn nathliad pen-blwydd Chwarae teg yn bump-ar-hugain mlwydd oed, yr oeddwn i ynddo yr wythnos diwethaf. Roedd y Prif Weithredwr, Cerys Furlong, yn edrych yn ôl i'r cyfnod y sefydlwyd Chwarae Teg pan gefais i fy mhenodi'n gyfarwyddwr cyntaf y mudiad, yn dilyn arolwg mawr o swyddogaeth menywod yn y gweithle yng Nghymru. Bryd hynny, nid oedd un o bob pum menyw yn gweithio; erbyn 2010, y ffigur oedd un o bob 10. Ond dywedodd Cerys wrthym fod menywod yn dal i wneud, ar gyfartaledd, 60 y cant yn fwy o waith di-dâl na dynion, sef 26 awr yr wythnos o'i gymharu ag 16 awr. Atgoffodd ni fod Chwarae Teg wedi bod yn gweithio dros y 25 mlynedd diwethaf gyda menywod, busnesau, ysgolion a llunwyr polisi i sicrhau y gall menywod yng Nghymru weithio, meithrin eu sgiliau ac adeiladu gyrfaoedd gwerth chweil. 

A gaf i dynnu eich sylw at raglen Cenedl Hyblyg 2 Chwarae Teg a sefydlwyd er mwyn helpu i wella safle menywod yn y gweithlu? Caiff y rhaglen ei hariannu drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru a chafodd ei datblygu fel ymateb uniongyrchol i gorff o dystiolaeth, sy'n dangos angen clir am fesurau cadarnhaol y mae angen eu gweithredu i gefnogi cynnydd menywod yng Nghymru. Er enghraifft, mae'r ffigurau cenedlaethol yn dangos bod 7 y cant o fenywod yng Nghymru mewn swyddi rheoli, o'i gymharu ag 11 y cant o ddynion. Ac mae merched wedi eu tangynrychioli mewn diwydiannau STEM allweddol— gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Bydd Cenedl Hyblyg 2 yn cefnogi 2,207 o fenywod a 500 o fusnesau yn ystod ei gylch oes arfaethedig. 

Ar y pwynt hwn, hoffwn i dalu teyrnged i Val Feld, cyn-Aelod Cynulliad dros Ddwyrain Abertawe. Hi arweiniodd y ffordd i sefydlu Chwarae Teg pan oedd yn gyfarwyddwr y Comisiwn Cyfle Cyfartal yng Nghymru. Rwy'n gwybod y bydd y Cynulliad hwn yn falch o glywed ein bod ni wedi gwneud cynnydd gyda'r cynllun i osod plac porffor ar y Senedd hon yn y flwyddyn newydd, pryd y gallwn ni roi amser a sylw dyledus i'w gwaddol sylweddol cyn ei marwolaeth annhymig ar ôl brwydr ddewr yn erbyn canser. Er cof am Val ac i gefnogi Chwarae Teg, a chyda Chwarae Teg yn uchelgeisiol ynghylch ei nod i wneud Cymru yn arweinydd byd-eang o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau, a gaf i groesawu meincnod newydd chwarae teg y mudiad a gafodd ei lansio yr wythnos diwethaf? Rwy'n gwybod y byddai Val yn eithriadol o falch o glywed am hyn ac am eu huchelgais.

Bydd y meincnod cyflogwr chwarae teg yn helpu cyflogwyr i weld sut maen nhw wedi eu graddio o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau a rhoi cynllun gweithredu iddyn nhw fel y gallan nhw wneud cynnydd o ran datgelu cyflog merched a dynion. Bydd y fenter chwarae teg ar gael i gyflogwyr sector cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector i'w helpu i gael cydnabyddiaeth fel cyflogwr chwarae teg. A gaf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet a all Llywodraeth Cymru fabwysiadu'r fenter newydd ysbrydoledig hon? Rwy'n credu bod yn rhaid ymgorffori hyn yn y cynllun gweithredu economaidd, y cafwyd datganiad yn ei gylch gan Ken Skates y prynhawn yma. Mae'n rhaid inni ddangos ein bod yn benderfynol o sbarduno newid o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru i fynd â ni ymlaen ac rwyf yn diolch i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am eu hadolygiad blynyddol diddorol.