Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 12 Rhagfyr 2017.
Diolch yn fawr. Rwy'n falch iawn o allu siarad yn y ddadl hon, a hoffwn i ddechrau drwy dalu teyrnged i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a diolch iddyn nhw am y gwaith pwysig iawn y maen nhw yn ei wneud yng Nghymru, gan dynnu sylw at faterion sy'n effeithio ar gynifer o wahanol grwpiau mewn cymdeithas. Hoffwn i hefyd ddiolch i Kate Bennett, un o'm hetholwr am flynyddoedd lawer, am y gwaith y mae hi wedi'i wneud yno, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda Ruth Coombs.
Credaf ei bod yn arbennig o ddiddorol yn eu hadroddiad sut maen nhw'n nodi y byddan nhw'n gweithio'n strategol gyda Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, yn gweithio gyda'r Comisiynydd Plant, ac rwy'n credu bod y gwaith gyda'r gwasanaeth carchardai yn bwysig iawn hefyd. Credaf hefyd fod yr hawliau dynol y byddan nhw'n gweithio i'w hamddiffyn pan rydym ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd yn bwysig iawn. Rwyf hefyd yn falch iawn eu bod nhw'n tynnu sylw at yr anghydraddoldebau a wynebir gan Sipsiwn a Theithwyr ac yn hyrwyddo'u hawliau. Rwy'n croesawu hyn yn fawr, â minnau'n Gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar Sipsiwn a Theithwyr. A sylwaf eu bod yn sôn yn yr adroddiad ynghylch sut y mae iechyd meddwl Sipsiwn a Theithwyr yn waeth na gweddill y boblogaeth. Credaf fod hynny'n bwynt pwysig iawn, oherwydd y pwynt pwysig arall i'w nodi yw bod y rhan fwyaf o Sipsiwn a Theithwyr mewn gwirionedd yn byw mewn tai, ac mae effaith byw mewn tai ar bobl nad yw eu ffordd o fyw yn gydnaws â hynny yn cael effaith fawr ar eu hiechyd meddwl. Felly, rwy'n falch iawn bod y pwyntiau hynny yn cael sylw yn eu hadroddiad.
Fe wnes i edrych ar welliant Plaid Cymru a gwrando ar araith Siân Gwenllian, ac achubais ar y cyfle i drafod gyda'r bobl sy'n weithgar yn y maes cam-drin domestig i weld pa effaith y mae'r Ddeddf yn ei chael ar hyn o bryd mewn gwirionedd. Ac, yn amlwg, mae pawb yn croesawu egwyddorion y Ddeddf a'r datganiad o fwriad, ond maen nhw yn gytûn mai gweithredu'r Ddeddf yw'r mater allweddol. Felly, o edrych ar fy awdurdod lleol fy hun, Caerdydd, cefais drafodaeth gyda Chymorth i Fenywod Caerdydd i weld sut roedden nhw'n teimlo bod y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod mewn gwirionedd yn effeithio ar y gwaith yr oedden nhw'n ei wneud. Maen nhw o ddifrif yn teimlo bod Cyngor Caerdydd wedi gwneud gwaith da iawn, yn wir, o gynnwys egwyddorion y Bil yn eu strategaeth gomisiynu, y mae cefnogaeth frwd iawn iddo o du asiantaethau trydydd sector, ac maen nhw mewn gwirionedd wedi mynd ati mewn modd cynhwysfawr iawn. Felly, gwelais yn fy awdurdod i fy hun fod elfen gadarnhaol iawn tuag at y ffordd yr oedd y Ddeddf yn cael ei gweithredu. Ond, wrth gwrs, dim ond un awdurdod lleol yw hwnnw, felly mae gwir angen inni ddal ati i graffu ar sut mae'r Ddeddf yn cael ei gweithredu, ac i gadw hyn yn gadarn ar yr agenda wleidyddol, oherwydd mae'n dibynnu cymaint ar sut y mae awdurdodau unigol yn gweithredu. Ond, fel y dywedais, roedd hynny yn adborth da.
Hefyd trafodais hyn â'r 'Black Association of Women Step Out', ac roedd Bawso yn teimlo bod peth dryswch wedi bod ar y cychwyn, ond maen nhw bellach yn gwbl grediniol fod pethau yn dod at ei gilydd a'u bod nhw'n mynd i'r afael â'r problemau. A dim ond eisiau sôn oeddwn i yn fyr am enghraifft o arfer da iawn ar ffurf y prosiect Adnabod ac Atgyfeirio i Wella Diogelwch, y mae Cymorth i Fenywod Caerdydd, Atal y Fro a Bawso yn ei ddarparu ac sy'n cael ei ariannu hyd at fis Mawrth y flwyddyn nesaf gan y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd. Mae'r cynllun hwn yn targedu meddygon teulu, oherwydd dyna ble y dywed 80 y cant o fenywod sydd wedi cael eu cam-drin eu bod nhw'n teimlo'n gyfforddus yn mynd i siarad am gam-drin, a dyma'r un lle y gallan nhw fynd heb i'w partner amau neu geisio eu hatal. Ac mae meddygon teulu yn cael cynnig sesiynau hyfforddiant i'w helpu i adnabod dioddefwyr cam-drin domestig, ac mae llwybr cyfeirio clir. Mae hyn wedi arwain at gynnydd enfawr yn nifer y menywod y mae meddygon teulu yn y cynllun peilot wedi eu cyfeirio am gymorth—mae wedi codi o bedair neu bump bob blwyddyn i 202 y llynedd. Mae'r cynllun hwn yn rhagflaenydd i'r hyfforddiant 'holi a gweithredu', sydd i'w roi ar waith fel rhan o'r Ddeddf. Felly, roeddwn i eisiau tynnu sylw at yr arferion da hynny sy'n digwydd mewn gwirionedd.
Mae dau bwynt yr hoffwn i eu codi gyda'r Gweinidog. Rwy'n gwybod bod oedi wedi bod wrth benodi ymgynghorydd cenedlaethol. Tybed a oes ganddi unrhyw wybodaeth ynglŷn â phryd y mae hynny'n debygol o ddigwydd. Ac, wrth gwrs, mae'r DU yn penodi comisiynydd ar gyfer y DU, a meddwl oeddwn i tybed a oedd hi wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i sut y byddai'r ymgynghorydd cenedlaethol yma yng Nghymru yn ymwneud â chomisiynydd y DU, a fyddai yn ôl pob tebyg yn gweithio ar faterion nad ydyn nhw wedi'u datganoli. Ond mae'n ymddangos i mi fod hwnnw'n faes eithaf pwysig.
Ac yna mae'r pwynt olaf yn bwynt y cododd Siân Gwenllian ynglŷn â'r grŵp arbenigol ar ryw a pherthnasoedd iach, yr wyf i, rwy'n gwybod, wedi holi yn ei gylch lawer tro. Tybed a oes ganddi unrhyw wybodaeth ynghylch pryd mae'r grŵp hwnnw'n debygol o adrodd yn ôl, ac, yn amlwg, mae'r mater allweddol a godwyd eisoes ynglŷn â sut y gweithredir unrhyw argymhellion gan y grŵp hwnnw.