Part of the debate – Senedd Cymru am 6:26 pm ar 12 Rhagfyr 2017.
Mae cynnwys cyflyrau meddygol yn y diffiniad o anghenion dysgu ychwanegol yn sicr yn ganlyniad cadarnhaol, ac mae templed Cymru gyfan ac amserlenni clir ar gyfer paratoi cynlluniau datblygu annibynnol, darpariaeth ar gyfer plant cyn oed ysgol a phobl ifanc mewn addysg bellach, a darparu eiriolaeth a chyngor annibynnol i gyd yn elfennau cadarnhaol.
Nid yw hynny'n golygu bod popeth yn y maes ADY yn fêl i gyd. Roeddem ni'n siomedig nad yw'r Llywodraeth wedi rhoi pwerau llawn dros iechyd i'r tribiwnlys addysg, sy'n amlwg yn un maes yr ydym ni'n anghytuno arno. Y bwriad ar gyfer y Bil a'r diwygiadau ehangach oedd creu system symlach, haws ei llywio, sy'n canolbwyntio ar y plentyn. Mae cadw dwy system o unioni—un ar gyfer addysg, un ar gyfer iechyd—ar gyfer sector lle ceir gorgyffwrdd rhwng y ddau yn aml, rwy'n credu, yn tanseilio hynny rhywfaint ac rwy'n credu bod hwnnw'n gyfle a gollwyd, fel y mae peidio â chynnwys dysgu seiliedig ar waith yn narpariaethau'r Bil. Rydym ni'n sôn yn aml am barch cydradd, a dywedir wrthym gan randdeiliaid bod plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn fwy tebygol o fynd i addysg alwedigaethol. Rwy'n credu bod hepgor dysgu seiliedig ar waith yn gyfle arall a gollwyd.
Byddwn yn ymgynghori ar y cod anghenion dysgu ychwanegol, wrth gwrs, yn yr hydref, a bydd hynny'n hollbwysig o ran gweithredu'r Bil. Mae llawer o addewidion wedi'u gwneud ynglŷn â chynnwys y cod a gwaith pob un ohonom ni nawr fydd gwneud yn siŵr ein bod yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif am yr addewidion hynny. Mae trafnidiaeth, hefyd, yn ffactor pwysig na chafodd le ar wyneb y Bil, ond bydd yn sicr yn rhan allweddol o'r cod. Mae'n rhywbeth yr ydym ni wedi'i drafod yn helaeth yn y Pwyllgor yn rheolaidd ac mae angen rhoi llawer o sylw iddo yn y Cod.
Nawr, nid yw hynt y ddeddfwriaeth wedi bod yn ddi-her, yn amlwg. Ddwywaith y flwyddyn hon bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru ail-gyfrifo faint y byddai'r ddeddfwriaeth yn gostio i'w gweithredu, ac arweiniodd hynny at rywfaint o oedi yn y broses, ac, fel yr ydym ni eisoes wedi clywed yn y dyddiau diwethaf, mae materion sy'n ymwneud â phenodiadau Tribiwnlys wedi dod i'r amlwg. Felly, gallaf ond dweud, yn amlwg, y bydd angen dysgu gwersi o'r profiadau hynny. Ond, wrth edrych i'r dyfodol, byddwn i'n dweud ei bod hi'n hanfodol bellach bod digon o adnoddau yn cael eu darparu i dalu'r costau gweithredu a bod y gweithlu yn gwbl barod ar gyfer yr hyn a fydd yn newid sylfaenol, ac mae'n rhaid imi ddweud, ar y cyfan, newid er gwell i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.
Gyda'ch caniatâd chi, Llywydd, hoffwn wneud un pwynt olaf. Dywedodd un blaid yn y Cynulliad hwn wrthym ni pan ddaethant yma eu bod yn dod yma i chwyldroi pethau. Mae'r blaid honno wedi bod yn anweledig i raddau helaeth dros y 12 mis diwethaf o graffu a diwygio'r ddeddfwriaeth hon. Trwy gydol y cyfnod pwyllgor, ni chafwyd yr un gwelliant. O'r cannoedd o welliannau a gyflwynwyd, ni chafwyd yr un gwelliant gan UKIP. Ar adeg y cyfarfod llawn, dim un gwelliant. Ni ddywedwyd yr un gair o blaid na fel arall ar unrhyw agwedd ar y ddeddfwriaeth hon. Mae hynny'n fy arwain i ddod i'r casgliad naill ai nad oes ganddyn nhw unrhyw farn ar hyn, sy'n anodd ei gredu am blaid sydd fel arfer yn eithaf cryf ei barn ar y rhan fwyaf o faterion, neu nad ydyn nhw wedi cymryd rhan yn y broses hon o gwbl, sy'n gwneud anghymwynas â'r plant a'r bobl ifanc hynny sydd fwyaf angen y ddeddfwriaeth hon, mae'n anghymwynas â'ch etholwyr, ac mae'n anghymwynas â'r sefydliad hwn. Mae hyn wedi fy ngwneud i, a llawer o'r rhanddeiliaid sydd wedi codi'r mater hwn gyda mi, i deimlo'n rhwystredig, wedi ein siomi ac yn flin iawn, iawn.