Part of the debate – Senedd Cymru am 6:24 pm ar 12 Rhagfyr 2017.
A gaf i ategu'r diolchiadau sydd wedi cael eu talu i bawb sydd wedi chwarae eu rhan, o'r budd-ddeiliaid i gynrychiolwyr y Llywodraeth ac aelodau'r pwyllgor, a swyddogion y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg hefyd, wrth i'r Bil yma fynd ar ei daith drwy'r Senedd? Nid oes yna amheuaeth fod yna gonsensws wedi bod o'r cychwyn am yr angen i ddiwygio y maes anghenion dysgu ychwanegol. Rydym wedi clywed yn barod am y teimlad fod y ddeddfwriaeth bresennol wedi dyddio a'i bod wedi arwain at system orgymhleth a oedd yn creu gormod o wrthdaro ac anghydweld, ac hefyd fod y darlun yn anghyson ar draws Cymru. Mae 'loteri cod post' yn derm sy'n cael ei ddefnyddio mewn sawl cyd-destun, ond mae'n sicr yn wir yn yr achos yma o safbwynt y darlun o ddarpariaeth sydd ar gael ar draws Cymru.
Mi oedd deddfwriaeth newydd, mwy addas ei phwrpas yn rhan o faniffesto Plaid Cymru, wrth gwrs, yn etholiad y Cynulliad. Mi oedd hefyd yn rhan o'r cytundeb rhwng fy mhlaid i a'r Llywodraeth, ac rwy'n falch ein bod ni wedi cyrraedd fan hyn heddiw a'n bod ni mewn sefyllfa i gwblhau'r broses, o safbwynt y Senedd, beth bynnag, a throi y Bil yn Ddeddf. Rwyf hefyd eisiau cydnabod bod yr Ysgrifennydd Cabinet a'r Gweinidog blaenorol yn sicr wedi gwrando ar y materion a godwyd gan y budd-ddeiliad, gan y pwyllgor, gen i ac eraill, ac wedi ymateb yn bositif ar lawer iawn o'r rheini yn ogystal. Nid yw hynny i ddweud bod y Bil yn union fel y byddwn i yn dymuno iddo fe fod, ond yn sicr mae e yn wahanol a thipyn yn well na'r un a osodwyd ar y cychwyn.
Fe lwyddom ni i gryfhau yn sylweddol, fel rydym wedi clywed, dyletswyddau o safbwynt confensiynau'r cenhedloedd unedig ar hawliau'r plentyn a phobl anabl. Roedd hynny'n argymhelliad cryf gan y pwyllgor ac yn rhywbeth roedd Plaid Cymru yn ei arddel o'r cychwyn. Hefyd, fel rydym wedi clywed, mi fydd awdurdodau lleol, byrddau llywodraethu ysgolion, ac yn y blaen, hefyd angen ystyried anghenion penodol siaradwyr Cymraeg sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Rwy'n falch hefyd ein bod ni wedi llwyddo i sicrhau bod darpariaeth cynllunio gweithlu hirdymor yn ei lle yn y Bil er mwyn sicrhau bod yna weithlu digonol ar gael i gwrdd ag anghenion plant ag anghenion dysgu ychwanegol, ym mha bynnag iaith, mewn blynyddoedd i ddod.