Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Weinidog. Ond nododd Mencap Cymru yn ddiweddar fod rhwystrau enfawr yn wynebu pobl ag anawsterau dysgu sy'n awyddus i weithio, yng Nghymru. Maent yn amcangyfrif, o'r 14,000 o bobl ag anableddau dysgu y gŵyr y gwasanaethau cymdeithasol amdanynt, mai 800 ohonynt yn unig sydd mewn gwaith. Golyga hynny lai na 6 y cant, Weinidog, ac yn bendant, nid yw hynny'n dderbyniol. A gaf fi ofyn beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddarparu rhaglenni cyflogadwyedd i'r gweithlu posibl hwn nad yw'n cael ei ddefnyddio, i raddau helaeth, ac i sicrhau bod cyflogwyr yn ymwybodol o fanteision cyflogi rhywun sydd ag anabledd dysgu yng Nghymru?