Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Diolch. Yn sicr. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i'r agenda hon. Yn y flwyddyn newydd, fe welwch y byddwn yn cyflwyno cynllun gweithredu cyflogadwyedd, a bydd rhan o'r cynllun gweithredu hwnnw yn ymwneud â sicrhau bod pobl—. Mae gennym raglen arbennig, Cymru'n Gweithio, a phan fydd pobl yn dod drwy borth penodol—bydd pawb yn dod drwy borth penodol, gan fod cymaint o wahanol raglenni ar hyn o bryd, mae'n anodd i bobl wybod ble i fynd—byddwn wedyn yn nodi beth yw eu hanghenion ac yn eu cyfeirio i'r mannau cywir. Oherwydd, ar hyn o bryd, mae cymaint o wahanol grwpiau, rydym yn ceisio sicrhau eu bod yn cael eu symleiddio er mwyn ei gwneud yn haws i bobl anabl gael y mynediad a'r cymorth sydd ei angen arnynt.