Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Rwy'n siŵr, Lywydd, fod yr Aelod yn ymwybodol iawn o fuddsoddiad y Llywodraeth yn rhwydwaith Seren. Cyfeiriaf yr Aelod at ddata y soniais amdano wrth y Siambr heb fod yn hir yn ôl mewn perthynas â'r dyddiad cau pan fo'n rhaid i fyfyrwyr sefyll arholiadau mynediad unigol i brifysgol Rhydychen, nifer o ysgolion meddygol ac ysgolion milfeddygol—mae nifer y ceisiadau yn uwch.