1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae wedi cymryd pedair blynedd i gyflwyno platfform rhith-ddysgu Hwb+ a sicrhau bod dros 80 y cant o ysgolion yn defnyddio'r platfform. Mae pob ysgol wedi cael eu hyfforddi i'w ddefnyddio ar ôl cryn dipyn o amser, ymdrech ac arian. Felly, a allwch egluro i ni pam eich bod o'r farn mai rhoi'r gorau i'r prosiect hwnnw bellach yw'r defnydd gorau o arian cyhoeddus?
Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig, Llyr, yw ein bod yn dysgu o brofiad ymarferwyr sy'n defnyddio'r adnodd ar-lein hwn. Mae rhai rhannau o'r prosiect wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae lefelau uchel o ddefnydd ac adborth gan addysgwyr a myfyrwyr yn dweud ei fod yn werthfawr iawn. Fodd bynnag, nid yw rhai agweddau ar y platfform wedi cael cymaint o ddefnydd, ac wrth i ni ddiweddaru ein cynnig ar Hwb, mae angen ystyried yr adborth gan addysgwyr a datblygu cyfres o wasanaethau sydd ar gael i ysgolion ar-lein ac sy'n ddefnyddiol iddynt, yn enwedig y rhyngwyneb, i sicrhau bod yr adnoddau hynny'n hawdd i'w defnyddio.
Ond nid ar chwarae bach y mae symud o un math penodol o ddarpariaeth i un arall, nage? Fe ddywedoch ym mis Mehefin,
'O'r cychwyn— ac rwy'n dyfynnu,
—'rydym wedi bod yn glir bod cymhwysedd digidol yn un o bileri sylfaenol addysg fodern'.
Ni fyddai neb yn amau hynny.
'Dyna pam y nodwyd cymhwysedd digidol fel y trydydd cyfrifoldeb trawsgwricwlaidd, ochr yn ochr â llythrennedd a rhifedd'.
Mae gennym sefyllfa lle mae'r consortia wedi cynghori ysgolion fod yr offer yn Hwb+ yn angenrheidiol ar gyfer cwricwlwm newydd a fframwaith cymhwysedd digidol y Llywodraeth. O ystyried maint y prosiect hwn, bydd y newid a fwriedir gennych yn arwain, heb os, at flwyddyn neu ddwy o darfu. Felly, a allwch ddweud wrthym sut y byddwch yn sicrhau bod newid y platfform hwn ar yr adeg allweddol hon yn gwella dysgu yn hytrach nag arwain at faich ychwanegol ar athrawon a fydd yn gorfod dechrau eto, ailhyfforddi ac ymgyfarwyddo â phlatfform newydd, ar adeg pan fo llawer o bobl yn dweud eu bod yn dal i ymgyfarwyddo â'r set gyfredol o offer?
Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig fod yr Aelodau'n ymwybodol nad ydym yn dirwyn prosiect Hwb i ben. Rydym yn bwriadu adnewyddu rhan benodol o'r rhaglen honno, Hwb+, sy'n rhan o'r rhaglen nad yw wedi gweld lefelau uchel iawn o ddefnydd, ac mae'r adborth gan addysgwyr yn dynodi nad yw wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol. Bydd Hwb yn gyffredinol yn parhau, a byddwn yn gweithio gyda chwmnïau meddalwedd mawr i geisio darparu rhyngwyneb mwy defnyddiol.
Ond mae'r Aelod yn llygad ei le i dynnu ein sylw at bwysigrwydd sgiliau digidol yn y cwricwlwm newydd. Mae'n gwbl hanfodol fod ein pobl ifanc yn gadael addysg yng Nghymru yn llythrennog, yn rhifog ac yn meddu ar gymhwysedd digidol. Mae hynny'n golygu mwy na gallu defnyddio cyfrifiadur yn unig, mae'n ymwneud â gallu ymchwilio i wybodaeth a welant ar-lein, mae'n ymwneud â bod yn ddiogel ar-lein ac yn ddiogel wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, ac yn hollbwysig, fel rhan o'n cynllun 'Cracio'r Cod' a'i ymestyn i glybiau codio, mae'n ymwneud â deall sut y mae cyfrifiaduron a thechnoleg gwybodaeth yn gweithio, gan mai'r bobl sy'n gallu dylunio apiau, dylunio gwefannau a dylunio rhaglenni—. Gall hynny arwain at fudd economaidd sylweddol i'r myfyrwyr a'r bobl ifanc hynny.
Credaf ei bod yn ddiddorol eich bod yn dweud bod yr adborth gan addysgwyr wedi bod yn llai na chadarnhaol, gan fod gwerthusiad y Llywodraeth ei hun o weithrediad y Rhaglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol ym mis Hydref y llynedd wedi nodi adborth cadarnhaol gan ysgolion mewn perthynas â Hwb+ ac wedi dod i'r casgliad,
'Byddai cefnu ar y prosiect yn siomi'n ddwys ac yn dieithrio'r athrawon sy'n frwd dros ddefnydd pellach o ddysgu digidol ac sydd wedi buddsoddi amser ac ymdrech helaeth i sefydlu gwefannau ysgol Hwb+ a'u hyrwyddo i'w cydweithwyr yn eu hysgol.'
Rydych wedi canmol Hwb+ am gyrraedd y rownd derfynol i gael ei enwi'n bartner addysg byd-eang y flwyddyn Microsoft eleni, felly mae hynny'n adborth cadarnhaol yn fy marn i. Hoffwn wybod o ble rydych yn cael yr adborth negyddol. Ond credaf hefyd fod arnom angen rhywfaint o eglurder ynghylch lefel y buddsoddiad a fuddsoddwyd gan y Llywodraeth yn hyn. Yn ddiweddar, fe ddywedoch chi fod cost y prosiect Hwb ar sail y contract ar gyfer y platfform Hwb yn £2.53 miliwn. Mae hynny'n anghyson ag ateb y Llywodraeth yn 2015, a ddywedai fod gwerth y contract cyflenwi i ddarparu Hwb+—llwyfan dysgu Cymru gyfan—i bob ysgol yng Nghymru oddeutu £4.5 miliwn. Mae yna anghysondeb. Felly, a allwch ddweud wrthym beth oedd cyfanswm cost y prosiect? A allwch ddweud wrthym hefyd pa gost ychwanegol a fydd yn deillio yn awr o'ch penderfyniad i wneud y newidiadau hyn?
Fel y dywedais, Llyr, mae'n gwbl hanfodol, oherwydd, mae'n rhaid i mi ddweud, rydych yn rhoi'r argraff fod Hwb ei hun yn dod i ben, ac nid yw hynny'n wir. Rydym yn newid rhan fechan iawn ohono am fod y contract yn dod i ben ac nid oes unrhyw opsiynau i adnewyddu yn y contract hwnnw. Ar sail gwerth cyhoeddus am arian, rwyf wedi penderfynu bwrw ymlaen â'r prosiect hwn mewn ffordd wahanol. Y ffigurau y gofynnodd yr Aelod amdanynt—byddaf yn ysgrifennu ato ac yn rhoi copi yn y llyfrgell.FootnoteLink
Llefarydd y Ceidwadwyr—Darren Millar.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae llai o fyfyrwyr o Gymru nag erioed o'r blaen yn mynd i brifysgolion Grŵp Russell. Gwyddom fod y ffigurau o Rydychen a Chaergrawnt yn awgrymu mai 2 y cant yn unig o'r rhai y cynigiwyd lleoedd iddynt y llynedd a oedd yn byw yng Nghymru. Pa gamau rydych yn eu cymryd fel Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r her hon ac i sicrhau bod mwy o'n plant mwyaf disglair yn llwyddo ac yn mynd i'r prifysgolion gorau hyn?
Rwy'n siŵr, Lywydd, fod yr Aelod yn ymwybodol iawn o fuddsoddiad y Llywodraeth yn rhwydwaith Seren. Cyfeiriaf yr Aelod at ddata y soniais amdano wrth y Siambr heb fod yn hir yn ôl mewn perthynas â'r dyddiad cau pan fo'n rhaid i fyfyrwyr sefyll arholiadau mynediad unigol i brifysgol Rhydychen, nifer o ysgolion meddygol ac ysgolion milfeddygol—mae nifer y ceisiadau yn uwch.
Nid yw'n ymwneud â cheisiadau yn unig, fodd bynnag, nag ydyw? Mae'n ymwneud â faint o leoedd a gynigir i fyfyrwyr o Gymru. A allwch ddweud wrthym faint o fyfyrwyr sy'n rhan o rwydwaith Seren a gafodd gynnig lleoedd ym mhrifysgolion Grŵp Russell yn y blynyddoedd diwethaf?
Gyda phob parch, os mai nifer cyfyngedig o bobl sydd gennym yn gwneud ceisiadau i fynd i'r prifysgolion hynny, ni allwn obeithio codi'r nifer sy'n cael cynnig lle, ac yn ei dderbyn, gobeithio. Yr hyn sy'n bwysig iawn i mi yw codi dyheadau myfyrwyr Cymru fel eu bod yn teimlo'n ddigon hyderus i wneud y ceisiadau hynny i Rydychen, Caergrawnt, i ysgolion meddygol, i ysgolion milfeddygol. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gan nad yw'r union ffigurau gennyf wrth law. O ystyried ei ymrwymiad—hollol deg—i sicrhau bod atebion gweinidogol yn hollol gywir, byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda'r ffigurau pendant.
Wel, rydych eisoes wedi ymateb i gwestiynau ar y mater hwn, ac wrth gwrs, nid ydych yn gallu darparu'r wybodaeth gan nad yw Llywodraeth Cymru yn ei chofnodi, sy'n eithaf syfrdanol o gofio eich bod yn gwneud cryn fuddsoddiad yn rhwydwaith Seren ac rydym yn awyddus i bobl allu llwyddo. Ond os nad ydych yn olrhain llwyddiant neu ddiffyg llwyddiant rhwydwaith Seren o ran nifer y bobl ifanc sy'n cael cynnig lleoedd yn y prifysgolion gorau, sut y gallwn fod yn ffyddiog nad yw hon yn enghraifft arall o wastraffu arian trethdalwyr, gan nad ydych wedi llwyddo i ddangos gwerth am arian ar ei gyfer?
Fel y dywedais, rydym yn cadw llygad barcud ar nifer y ceisiadau y mae myfyrwyr yn eu gwneud i brifysgolion. Rwy'n ymwybodol iawn o'r cwestiynau a ofynnwyd gan y grŵp Ceidwadol; 61 cwestiwn unigol ar y pwnc penodol hwn mewn un diwrnod. Rwy'n ddiolchgar i'r Ceidwadwyr am ddangos y fath ddiddordeb yn y rhaglen hon a byddaf yn ceisio sicrhau bod Darren Millar yn cael y data y mae'n awyddus i'w gael.
Llefarydd UKIP—Michelle Brown.
Diolch, Lywydd. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi manylion unrhyw ddarpariaeth addysgol ychwanegol a wneir ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru i mi, os gwelwch yn dda?
Diolch i Michelle am ei chwestiwn. Rwy'n siŵr fod yr Aelod yn ymwybodol fod plant sy'n derbyn gofal yn gymwys ar gyfer y grant datblygu disgyblion. Mae adnoddau ychwanegol ar gael i gefnogi addysg plant sy'n derbyn gofal, a bydd gan blant sy'n derbyn gofal ac sy'n dymuno mynychu'r brifysgol hawl i'r pecyn llawn o gymorth i fyfyrwyr o dan gynigion Diamond.
Iawn, diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Y rheswm y gofynnaf yw bod y cyhoeddiad a wnaethoch ym mis Mai a'r hyn rydych newydd ei ddweud—nid yw'n cynnwys llawer o fanylion ynglŷn â sut y byddai cymorth ychwanegol ar gyfer y grŵp hwn yn cael ei weithredu mewn gwirionedd. Er eich bod wedi cyhoeddi camau cadarnhaol yn y gorffennol, a ydych wedi ystyried sicrhau bod oriau addysgu ychwanegol ar gael i blant sy'n derbyn gofal? Dywed yr elusen Plant yng Nghymru fod y sector yn dal i weld canlyniadau addysgol gwaeth na'u cymheiriaid nad ydynt yn derbyn gofal. Os ydych wedi ystyried hyn, a ydych wedi ymrwymo i glustnodi cyllid ar gyfer ysgolion, neu sefydliadau eraill yn wir, i ddarparu ychydig o amser dysgu ychwanegol i blant sy'n derbyn gofal, naill ai wyneb yn wyneb neu mewn grŵp?
Wel, Michelle, gadewch i mi ddweud yn berffaith glir, nid yw plant sy'n cael profiad o ofal, ar hyn o bryd, yn cyflawni'r cymwysterau yn y niferoedd yr hoffwn eu gweld yn ei wneud. Cafwyd cynnydd sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf gyda nifer y plant sy'n derbyn gofal sy'n gadael yr ysgol gyda phum TGAU da, ond mae gennym gryn dipyn o ffordd i fynd i sicrhau bod y plant hynny'n cyflawni eu potensial.
Gofynna'r Aelod ynglŷn â chlustnodi adnoddau. Mae'r grant datblygu disgyblion wedi'i glustnodi. Mae'n swm penodol o arian a ddarperir i'r consortia rhanbarthol i gynorthwyo ysgolion gydag amrywiaeth o dechnegau—beth bynnag sydd orau ar gyfer y plant hynny yn yr ysgolion arbennig hynny.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio ar draws adrannau, gyda fy nghyd-Aelod, Huw Irranca-Davies, i ariannu ffocws profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a rhwydwaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Gwyddom fod llawer o blant sy'n derbyn gofal, oherwydd y ffaith eu bod yn derbyn gofal, wedi dioddef profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a all effeithio'n negyddol ar eu haddysg. Mae'r ffocws profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn cynorthwyo ysgolion i edrych ar amrywiaeth o ymyriadau i gynorthwyo'r plant hynny sy'n derbyn gofal yn y ffordd orau.
Y rheswm rwy'n holi ynglŷn â hyn yw am fod plant sydd yng ngofal yr awdurdod lleol o dan anfantais yn barod oherwydd yr holl brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod y soniwch amdanynt—bydd hynny wedi cael effaith ar eu haddysg. Maent yn cael eu rhoi mewn gofal, sy'n effeithio ar eu haddysg. Yr hyn y gall y wladwriaeth ei wneud yw rhoi addysg ychwanegol iddynt er mwyn rhoi hwb iddynt—addysg na fyddai'n arbennig o ddrud i'w chynnig ar sail bob plentyn unigol mewn gwirionedd. Tybed a ydych yn barod i ystyried yr opsiwn hwnnw o gynnig trefniant ysgol haf i blant sy'n derbyn gofal o bosibl, gan fod eu haddysg yn dioddef o ganlyniad i'r profiadau niweidiol y maent wedi eu cael.
Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru, yr haf hwn, wedi ariannu rhaglen gwella gwyliau’r haf, neu'r rhaglen bwyd a hwyl, a oedd wedi'i hanelu'n bennaf at blant difreintiedig fel y gallent gael mynediad at ddarpariaeth addysgol a phryd bwyd poeth yn ystod y gwyliau ysgol. Mae'r rhaglen honno wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac rydym yn gobeithio gallu ariannu hyd yn oed mwy o awdurdodau lleol i allu cynnig y cyfleoedd hynny yr haf nesaf. Rydym yn parhau i gefnogi'r teuluoedd sy'n darparu gofal maeth drwy roi cyngor ychwanegol ynglŷn â sut y gallant gael effaith.
Ond yr hyn sy'n wirioneddol bwysig i'w gofio—os gwrandewch ar blant sy'n derbyn gofal, yr hyn a ddywedant wrthych dro ar ôl tro yw nad oes arnynt eisiau cael eu stigmateiddio ac nad oes arnynt eisiau cael eu gweld yn cael eu trin yn wahanol i'w cyfoedion, ac mae hynny'n wirioneddol bwysig i'r plant hyn. Rydym yn eu cefnogi mewn addysg brif ffrwd—nid eu neilltuo, ond rhoi adnoddau ychwanegol i'r ysgolion i helpu addysg y plant hynny. Yn bwysig, rydym yn gweld canlyniadau, gan fod y canlyniadau yn gwella ar gyfer y grŵp hwnnw o ddysgwyr.