Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Gyda phob parch, os mai nifer cyfyngedig o bobl sydd gennym yn gwneud ceisiadau i fynd i'r prifysgolion hynny, ni allwn obeithio codi'r nifer sy'n cael cynnig lle, ac yn ei dderbyn, gobeithio. Yr hyn sy'n bwysig iawn i mi yw codi dyheadau myfyrwyr Cymru fel eu bod yn teimlo'n ddigon hyderus i wneud y ceisiadau hynny i Rydychen, Caergrawnt, i ysgolion meddygol, i ysgolion milfeddygol. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gan nad yw'r union ffigurau gennyf wrth law. O ystyried ei ymrwymiad—hollol deg—i sicrhau bod atebion gweinidogol yn hollol gywir, byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda'r ffigurau pendant.