Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Mae pobl sy'n dioddef o salwch meddwl yn cael trafferth arbennig i ganfod llwybr i waith neu yn ôl i waith ar ôl cyfnod o salwch. Un ffordd o hwyluso mynediad at waith ydy cynnig lleoliad, sy'n golygu nad oes angen mynd drwy'r broses draddodiadol o gyfweliad a'r pryder a'r straen mae hynny'n gallu ei olygu. Pa ymdrechion y mae'r Llywodraeth wedi eu gwneud i annog lleoliadau o'r math yma? A fyddwn ni'n gweld y math yna o beth yn y cynllun gweithredu cyflogaeth yr oeddech chi'n sôn amdano fo, achos mi fyddai hynny yn hwyluso a chefnogi unigolion â phroblemau iechyd meddwl i ailymuno â'r gweithle?