Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Fel y dywedais, rydym yn cadw llygad barcud ar nifer y ceisiadau y mae myfyrwyr yn eu gwneud i brifysgolion. Rwy'n ymwybodol iawn o'r cwestiynau a ofynnwyd gan y grŵp Ceidwadol; 61 cwestiwn unigol ar y pwnc penodol hwn mewn un diwrnod. Rwy'n ddiolchgar i'r Ceidwadwyr am ddangos y fath ddiddordeb yn y rhaglen hon a byddaf yn ceisio sicrhau bod Darren Millar yn cael y data y mae'n awyddus i'w gael.