Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Y rheswm rwy'n holi ynglŷn â hyn yw am fod plant sydd yng ngofal yr awdurdod lleol o dan anfantais yn barod oherwydd yr holl brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod y soniwch amdanynt—bydd hynny wedi cael effaith ar eu haddysg. Maent yn cael eu rhoi mewn gofal, sy'n effeithio ar eu haddysg. Yr hyn y gall y wladwriaeth ei wneud yw rhoi addysg ychwanegol iddynt er mwyn rhoi hwb iddynt—addysg na fyddai'n arbennig o ddrud i'w chynnig ar sail bob plentyn unigol mewn gwirionedd. Tybed a ydych yn barod i ystyried yr opsiwn hwnnw o gynnig trefniant ysgol haf i blant sy'n derbyn gofal o bosibl, gan fod eu haddysg yn dioddef o ganlyniad i'r profiadau niweidiol y maent wedi eu cael.