Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Iawn, diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Y rheswm y gofynnaf yw bod y cyhoeddiad a wnaethoch ym mis Mai a'r hyn rydych newydd ei ddweud—nid yw'n cynnwys llawer o fanylion ynglŷn â sut y byddai cymorth ychwanegol ar gyfer y grŵp hwn yn cael ei weithredu mewn gwirionedd. Er eich bod wedi cyhoeddi camau cadarnhaol yn y gorffennol, a ydych wedi ystyried sicrhau bod oriau addysgu ychwanegol ar gael i blant sy'n derbyn gofal? Dywed yr elusen Plant yng Nghymru fod y sector yn dal i weld canlyniadau addysgol gwaeth na'u cymheiriaid nad ydynt yn derbyn gofal. Os ydych wedi ystyried hyn, a ydych wedi ymrwymo i glustnodi cyllid ar gyfer ysgolion, neu sefydliadau eraill yn wir, i ddarparu ychydig o amser dysgu ychwanegol i blant sy'n derbyn gofal, naill ai wyneb yn wyneb neu mewn grŵp?