Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Diolch, Lywydd. Nawr, fe ddymunoch chi Nadolig llawen i mi ddoe, a hoffwn ddymuno'n dda i chi ac i'ch teulu heddiw. Nadolig llawen i chi i gyd.
Ysgrifennydd y Cabinet, wrth annerch Confensiwn Cyflogadwyedd a Sgiliau Cymru y Sefydliad Dysgu a Gwaith yr wythnos diwethaf, dywedodd Gweinidog newydd y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, nad yw cyflogadwyedd yn ymwneud â swyddi a sgiliau yn unig; mae'n ymwneud â sicrhau bod pob agwedd ar bolisi'r Llywodraeth—addysg, iechyd, tai a chymunedau—yn cydweithio i gynorthwyo pobl i gael swyddi cynaliadwy. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn ffordd gyfannol i sicrhau bod grwpiau agored i niwed yn elwa o fentrau polisi'r Llywodraeth? Weinidog.