Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Diolch yn fawr iawn, Rhianon. Yn sicr. Rydym yn ceisio gweithio'n drawsadrannol. O ystyried bod gennym gyllideb o oddeutu £15 biliwn, mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o bob ceiniog, ac mae gweithio'n drawsadrannol yn gwneud synnwyr llwyr. Yr hyn rwyf wedi bod yn ei wneud yw cyfarfod yn annibynnol ac yn unigol gyda gwahanol Weinidogion i sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar yr agenda hon. Felly, cyfarfûm â fy nghyd-Aelod yma yr wythnos diwethaf i drafod sut y gallwn fod o gymorth, er enghraifft, mewn perthynas â gofal. Ni all llawer o bobl ddychwelyd i'r gwaith gan fod ganddynt gyfrifoldebau gofalu. Felly, sut rydym yn plethu'r pethau hyn gyda'i gilydd i sicrhau eu bod yn gysylltiedig ac y gall pobl ddychwelyd i'r gwaith? Nid geiriau'n unig yw'r syniad hwn o waith trawsadrannol; rydym yn mynd i'r afael â'r manylion o ran sut y mae hynny'n digwydd yn ymarferol.