Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Rydych yn dweud wrthym eich bod yn ei ystyried—mae arnaf ofn ei fod wedi cael ei ystyried ers amser hir bellach, a gwyddom fod adroddiad yr adolygiad ymarfer plant a gyhoeddwyd y llynedd mewn perthynas ag achos Dylan Seabridge wedi argymell yn gryf fod angen newid y ddeddfwriaeth er mwyn ei gwneud yn ofynnol i rieni gofrestru plant sy'n cael eu haddysg gartref gyda'r awdurdod lleol, a hefyd i sicrhau bod rhywun yn gweld ac yn siarad â'r plant hynny bob blwyddyn. Mae pob un ohonom yn ymwybodol fod Comisiynydd Plant Cymru wedi bod yn galw'n gyson hefyd am roi grym statudol i'r canllawiau presennol ac am iddynt gynnwys cofrestr orfodol ar gyfer pob plentyn sy'n cael eu haddysg gartref, gyda phwerau clir i awdurdodau lleol weld y plant hynny ac i siarad â hwy yn uniongyrchol ynglŷn â'u haddysg. Yn fwy diweddar, roedd adolygiad seiliedig ar dystiolaeth a gomisiynwyd gan y bwrdd diogelu plant cenedlaethol o'r risgiau i blant sy'n cael eu haddysg gartref yn feirniadol iawn o'r status quo, a galwodd am gofrestru plant sy'n cael eu haddysg gartref, a'u hasesu'n rheolaidd. Gwn fod awdurdodau lleol hefyd wedi bod yn galw am hyn, ac fel rydych yn cydnabod, rydym ninnau'n cydnabod bod gan rieni hawl i ddewis addysgu eu plant gartref yn hytrach nag yn yr ysgol, ac nid yw addysg yn y cartref ynddo'i hun yn ffactor risg ar gyfer camdriniaeth neu esgeulustod. Rydych yn dweud eich bod yn ystyried y mater. Wel, onid ydych yn cytuno, tra bo unrhyw bosibilrwydd y gall plentyn fod yn anweledig ac y gallai fod Dylan Seabridge arall allan yno yn rhywle, fod arnom angen mwy o weithredu ac arweiniad gan y Llywodraeth hon? A allwch ddweud wrthym: pryd y byddwch yn rhoi camau pendant ar waith?