Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Mae'n debyg y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o Goleg Elidyr, sef coleg addysg bellach arbenigol yn fy etholaeth. Tybed a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn barod i edrych eto ar ddiwygio'r derminoleg a ddefnyddir yn y cod drafft i ddisgrifio sefydliadau fel Coleg Elidyr, sy'n cyd-fynd yn well â'r hyn y byddai'r sector yn ei ffafrio, ond Estyn yn ogystal. Rwy'n fwy na pharod i gyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet i roi rhagor o fanylion, pe bai hynny o gymorth.