1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 13 Rhagfyr 2017.
3. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am pryd y bydd y cod anghenion dysgu ychwanegol yn cael ei gyhoeddi? OAQ51471
Diolch, Angela. Ddydd Llun, cyhoeddais ein cynlluniau ar gyfer rhoi Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) ar waith, sydd wrth wraidd ein rhaglen uchelgeisiol i drawsnewid addysg a chymorth i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Cynhelir ymgynghoriad ar y cod y flwyddyn nesaf, a bydd ar waith erbyn diwedd 2019.
Ysgrifennydd y Cabinet, diolch. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Cam 4 y Bil anghenion dysgu ychwanegol wedi cael ei basio ddoe, a nodais â diddordeb y datganiad a gyhoeddwyd gennych yn gynharach yr wythnos hon ar weithredu'r cod newydd. Fodd bynnag, hoffwn eglurhad ynglŷn â'r cyngor rydych yn ei ddarparu i awdurdodau addysg lleol ynghylch y mesurau dros dro sydd ar waith yn awr gan fod y Bil wedi cael ei basio. Rwyf wedi codi'r mater hwn o'r blaen gyda chyn-Ysgrifenyddion addysg, gan ei bod yn ymddangos yn amlwg i mi nad yw'r awdurdodau'n awyddus i gyhoeddi datganiadau gan fod y system newydd ar y ffordd. O gofio nad yw'r cyfnod gweithredu i fod i gael ei gwblhau tan 2023, pa sicrwydd y gallwch ei roi y bydd cefnogaeth lawn yn parhau dros y blynyddoedd cyfamserol ac na fydd awdurdodau lleol yn cyfyngu ar y cymorth a ddarperir i'r plant hyn sy'n agored iawn i niwed?
Y bore yma, cyfarfûm ag arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac roedd y broses o roi'r Bil anghenion dysgu ychwanegol ar waith yn eitem ar yr agenda honno. Yr hyn sy'n gwbl glir yw ein bod yn cyflwyno dull gweithredu fesul cam, fel y gallwn newid o un system i'r llall yn llwyddiannus. Ond rwyf wedi bod yn gwbl glir yn fy natganiad y dylid cynnwys plant newydd sy'n dod i mewn i'r system, neu sy'n cael eu nodi o'r newydd o fewn y system, yn y rhaglen newydd. Dylid eu cynnwys yn y rhaglen newydd, ac rydym yn ceisio trosglwyddo'r plant sydd â datganiad statudol o anghenion addysgol eisoes, gan ganolbwyntio yn gyntaf ar blant sydd ar gamau pwysig iawn o'u haddysg, sef y newid, fel arfer, o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd neu o'r ysgol uwchradd i addysg bellach neu addysg uwch, a bydd honno'n rhaglen dreigl. Dylid cynnwys plant a nodir o'r newydd yn y dull newydd.
Mae'n debyg y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o Goleg Elidyr, sef coleg addysg bellach arbenigol yn fy etholaeth. Tybed a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn barod i edrych eto ar ddiwygio'r derminoleg a ddefnyddir yn y cod drafft i ddisgrifio sefydliadau fel Coleg Elidyr, sy'n cyd-fynd yn well â'r hyn y byddai'r sector yn ei ffafrio, ond Estyn yn ogystal. Rwy'n fwy na pharod i gyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet i roi rhagor o fanylion, pe bai hynny o gymorth.
Wrth gwrs, rwy'n ymwybodol fod Llywodraeth Cymru yn ariannu nifer o fyfyrwyr i astudio yng Ngholeg Elidyr, a holl ddiben y broses wrth symud ymlaen yw y gallwn weithio ar y cyd i sicrhau bod y cod yn iawn, a buaswn yn barod iawn i gyfarfod â'r aelod i siarad am unrhyw bryderon sydd ganddo. Wrth gwrs, bydd y pwyllgor yma yn y Cynulliad Cenedlaethol yn craffu'n llawn ar y cod a bydd y Cynulliad yn ei gyfanrwydd yn pleidleisio arno. Dyna pam y byddwn yn ymgynghori er mwyn sicrhau bod y cod yn gywir, ond os oes gan yr Aelod unrhyw bryderon penodol ynglŷn â geiriad, rwy'n fwy na pharod i edrych ar y mater.