Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae hwn yn faes y mae gennyf ddiddordeb arbennig ynddo, gan y credaf mai un o'r cyfnodau mwyaf gwerth chweil i mi eu cael oedd y 13 blynedd a dreuliais yn llywodraethwr ysgol gynradd. Ond yn anffodus, yn ystod y cyfnod hwnnw, deuthum yn ymwybodol o'r holl swyddi gwag a oedd yn bodoli ar y pryd, ac mae'n rhaid i mi ddweud, yn ôl y dystiolaeth a gasglwyd yma drwy'r cwestiynau ysgrifenedig ac ati, credaf fod cyfraddau'r swyddi gwag hynny, yn anffodus, wedi cynyddu ledled Cymru.
Rwy'n clywed yr hyn a ddywedwch ynglŷn â'r ffaith mai awdurdodau lleol, fel yr awdurdod addysg lleol, sydd â'r prif gyfrifoldeb am hyrwyddo swyddi o'r fath, ond gyda'r newid i'r agenda rydych yn ei gynnig fel Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg, byddech yn derbyn bod gan lywodraethwyr ysgolion rôl hollbwysig yn cefnogi'r athrawon a gweddill teulu'r ysgol wrth hyrwyddo'r newidiadau hynny. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn ennyn diddordeb pobl yn y lle cyntaf mewn swyddi llywodraethwyr ysgol, ac yn llenwi'r swyddi gwag hynny. Pa mor hyderus ydych chi, wrth weithio gydag awdurdodau lleol, y gallwch arafu'r gostyngiad yn nifer y bobl sy'n ymgymryd â chyfrifoldebau swydd fel llywodraethwr ysgol?