Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 13 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:40, 13 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Ond nid ar chwarae bach y mae symud o un math penodol o ddarpariaeth i un arall, nage? Fe ddywedoch ym mis Mehefin,

'O'r cychwyn— ac rwy'n dyfynnu,

—'rydym wedi bod yn glir bod cymhwysedd digidol yn un o bileri sylfaenol addysg fodern'.

Ni fyddai neb yn amau hynny.

'Dyna pam y nodwyd cymhwysedd digidol fel y trydydd cyfrifoldeb trawsgwricwlaidd, ochr yn ochr â llythrennedd a rhifedd'.

Mae gennym sefyllfa lle mae'r consortia wedi cynghori ysgolion fod yr offer yn Hwb+ yn angenrheidiol ar gyfer cwricwlwm newydd a fframwaith cymhwysedd digidol y Llywodraeth. O ystyried maint y prosiect hwn, bydd y newid a fwriedir gennych yn arwain, heb os, at flwyddyn neu ddwy o darfu. Felly, a allwch ddweud wrthym sut y byddwch yn sicrhau bod newid y platfform hwn ar yr adeg allweddol hon yn gwella dysgu yn hytrach nag arwain at faich ychwanegol ar athrawon a fydd yn gorfod dechrau eto, ailhyfforddi ac ymgyfarwyddo â phlatfform newydd, ar adeg pan fo llawer o bobl yn dweud eu bod yn dal i ymgyfarwyddo â'r set gyfredol o offer?