Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Rwy'n cytuno, Vikki, fod angen inni wneud mwy i integreiddio dulliau fel Seren mewn ysgolion yng Nghymru. Rwy'n gweithio gyda phrifysgolion i sicrhau eu bod yn gweithio ar gyflawni eu cenhadaeth ddinesig. Fel y dywedwch, mae hynny'n arbennig o bwysig mewn cymunedau nad oes ganddynt brifysgol ar garreg y drws o bosibl. Felly, er enghraifft, bydd y cynllun mentora ieithoedd tramor modern sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn yn cael ei gynnig ar sail ddigidol i'r ysgolion lle nad yw'n bosibl inni sicrhau bod y graddedigion yn mynd i mewn i'r adeilad. Rwy'n falch o ddweud, mewn perthynas â'r dyddiad cau ar 27 Ionawr ar gyfer ceisiadau i ddechrau cyrsiau addysg uwch yn y flwyddyn academaidd hon, fod y cyfraddau ymgeisio ar gyfer pobl 18 oed yng Nghwm Cynon wedi cyrraedd 30 y cant, sef y gyfradd uchaf mewn mwy na degawd o'r data a gofnodwyd. Gobeithiaf weld cynnydd pellach yng Nghwm Cynon dros y blynyddoedd i ddod.