Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 13 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:43, 13 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Credaf ei bod yn ddiddorol eich bod yn dweud bod yr adborth gan addysgwyr wedi bod yn llai na chadarnhaol, gan fod gwerthusiad y Llywodraeth ei hun o weithrediad y Rhaglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol ym mis Hydref y llynedd wedi nodi adborth cadarnhaol gan ysgolion mewn perthynas â Hwb+ ac wedi dod i'r casgliad,

'Byddai cefnu ar y prosiect yn siomi'n ddwys ac yn dieithrio'r athrawon sy'n frwd dros ddefnydd pellach o ddysgu digidol ac sydd wedi buddsoddi amser ac ymdrech helaeth i sefydlu gwefannau ysgol Hwb+ a'u hyrwyddo i'w cydweithwyr yn eu hysgol.'

Rydych wedi canmol Hwb+ am gyrraedd y rownd derfynol i gael ei enwi'n bartner addysg byd-eang y flwyddyn Microsoft eleni, felly mae hynny'n adborth cadarnhaol yn fy marn i. Hoffwn wybod o ble rydych yn cael yr adborth negyddol. Ond credaf hefyd fod arnom angen rhywfaint o eglurder ynghylch lefel y buddsoddiad a fuddsoddwyd gan y Llywodraeth yn hyn. Yn ddiweddar, fe ddywedoch chi fod cost y prosiect Hwb ar sail y contract ar gyfer y platfform Hwb yn £2.53 miliwn. Mae hynny'n anghyson ag ateb y Llywodraeth yn 2015, a ddywedai fod gwerth y contract cyflenwi i ddarparu Hwb+—llwyfan dysgu Cymru gyfan—i bob ysgol yng Nghymru oddeutu £4.5 miliwn. Mae yna anghysondeb. Felly, a allwch ddweud wrthym beth oedd cyfanswm cost y prosiect? A allwch ddweud wrthym hefyd pa gost ychwanegol a fydd yn deillio yn awr o'ch penderfyniad i wneud y newidiadau hyn?