Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Dywedodd y cyn Weinidog y byddai’n fodlon edrych ar rôl busnesau bach eu hunain yn hyrwyddo defnydd o'r iaith Gymraeg. Credaf i ei fod yn syniad da i chwilio am unigolion allweddol mewn busnesau bach sydd wedi eu hysgogi i rannu’r cyfrifoldeb am ddatblygu hyn fel rhan o ddysgu gydol oes, neu ddatblygu proffesiynol parhaus, neu ffordd arall addas i’r busnes bach. A ydych chi’n ystyried gosod targedau ar gyfer y nifer o fusnesau bach a hoffech chi eu gweld yn datblygu eu sgiliau iaith Gymraeg a pha gymhellion a allai fod ar gael i ysbrydoli unigolion allweddol o’r fath?