1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 13 Rhagfyr 2017.
6. Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth ar waith i gyfrannu at ei tharged o filiwn o siaradwyr erbyn 2050? OAQ51477
Diolch yn fawr. Mae cynlluniau a thargedau Llywodraeth Cymru ar gyfer cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg wedi’u cynnwys yn rhaglen waith 2017-21 strategaeth 'Cymraeg 2050'.
Mae adroddiad newydd gan Gomisiynydd y Gymraeg, sef 'Darpariaeth Gofal Plant ac Addysg Blynyddoedd Cynnar Cyfrwng Cymraeg' yn dweud fel hyn:
'Er bod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o bwysigrwydd gofal plant i ddyfodol yr iaith, nid oes cynlluniau pendant a chadarn ynglŷn â sut y bwriedir integreiddio'r Cynllun 30 Awr a’r weledigaeth 2050.'
Mae 'Ffyniant i Bawb' yn nodi pwysigrwydd cydweithio ar draws adrannau er mwyn gwireddu uchelgais y Llywodraeth. Onid ydy’r diffyg cydweithio dros y Gymraeg a gofal plant yn arwydd o fethiant llwyr eich Llywodraeth chi i ddwyn ynghyd dau o’ch prif feysydd polisi?
Wel, rŷm ni yn cydweithredu. Rydw i’n meddwl mai’r peth cyntaf i’w ddweud yw bod yna ddealltwriaeth bod yn rhaid i chi ganolbwyntio ar y blynyddoedd cynnar yna, ac mae’n deg i ddweud bod strategaeth gyda ni mewn lle ar gyfer gofal plant, ac mae’n bwysig, mae’n hanfodol—ar gyfer pob peth sy’n mynd trwy’r Llywodraeth nawr, mae e’n gofyn beth ŷch chi’n ei wneud i helpu’r iaith Gymraeg. Felly, fe fydd hynny yn rhan ganolog o’r hyn fydd yn rhaid i’r Gweinidog ei wneud. Felly, wrth gwrs, mae yna waith i’w wneud, ond rydw i’n meddwl hefyd bod yn rhaid i ni ganolbwyntio ar y blynyddoedd ar ôl hynny gydag ysgolion meithrin. Rydym ni’n mynd i gael 150 yn fwy o ysgolion meithrin yn y degawd nesaf, ac rydw i’n meddwl mai dyna’r ffordd i ni sicrhau ein bod ni’n gweld twf yn yr iaith Gymraeg.
Dywedodd y cyn Weinidog y byddai’n fodlon edrych ar rôl busnesau bach eu hunain yn hyrwyddo defnydd o'r iaith Gymraeg. Credaf i ei fod yn syniad da i chwilio am unigolion allweddol mewn busnesau bach sydd wedi eu hysgogi i rannu’r cyfrifoldeb am ddatblygu hyn fel rhan o ddysgu gydol oes, neu ddatblygu proffesiynol parhaus, neu ffordd arall addas i’r busnes bach. A ydych chi’n ystyried gosod targedau ar gyfer y nifer o fusnesau bach a hoffech chi eu gweld yn datblygu eu sgiliau iaith Gymraeg a pha gymhellion a allai fod ar gael i ysbrydoli unigolion allweddol o’r fath?
Wel, rŷch chi’n eithaf reit. Un o’n targedau ni yw sicrhau bod pobl ddim jest yn gallu siarad Cymraeg, ond eu bod nhw actually yn defnyddio’r Gymraeg, ac felly mae e’n bwysig ein bod ni’n rhoi’r cyfleoedd hynny. Mae busnesau bach—mae sicrhau bod pobl yn ymwybodol eich bod chi’n gallu defnyddio’r Gymraeg pan fyddwch chi’n delio â busnes yn hollbwysig. Felly, mae yna strategaethau y byddwn ni yn eu datblygu ar gyfer sicrhau bod pobl yn ymwybodol o ble mae yna bosibilrwydd.
Yn barod, mae lot ohonom ni’n gwisgo’r bathodynnau yma ac ati. Rydw i’n meddwl bod yn rhaid i ni sicrhau bod pobl yn ymwybodol bod honno’n ffordd i bobl sicrhau eu bod nhw’n gwybod pwy sy’n gallu siarad Cymraeg. Ond mae’n rhaid i ni fynd ymhellach; mae’n rhaid i ni edrych ar dechnoleg ac ati. Mae lot o fusnesau nawr yn defnyddio technoleg ar gyfer gwerthu a phrynu nwyddau, ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio technoleg trwy gyfrwng y Gymraeg. Pan fyddaf i’n codi yn y bore, byddaf i’n gofyn i Alexa droi’r radio ymlaen. Allaf i ddim ei wneud e yn Gymraeg. Ond mae’n bwysig ein bod ni—ac rydym ni’n gwneud lot yn y maes yna.