Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Rydych yn llygad eich lle, Darren. Mae gogledd Cymru mewn sefyllfa ffodus iawn lle y ceir cysylltiadau cryf rhwng ysgolion unigol, y consortiwm rhanbarthol, GwE, a Phrifysgol Bangor, sy'n edrych ar ymarfer penodol yn y dosbarth a'r effaith a gaiff hynny ar blant. Mae GwE wedi cytuno i ysgwyddo rôl arweiniol ar draws y consortia eraill i ddatblygu rhaglenni tebyg o ran y cysylltiadau rhwng ymchwil ac ymarfer yn yr ysgol.
Byddwch hefyd yn ymwybodol o'r gwaith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Glasgow ac ysgolion o ran y gwaith ymchwil sy'n sail i'n cwricwlwm newydd. Byddai'n wych pe bai mwy o brifysgolion yn cymryd rhan mewn ymchwil o'r fath ac rwy'n gobeithio, drwy nodi hyn yn glir yng nghonsortiwm GwE a'u hannog i rannu arferion gorau ac i arwain ar hyn ar gyfer meysydd eraill, y byddwn yn gweld datblygiadau pellach, gan fod y gwaith yn gryf iawn ac yn werthfawr iawn i addysgwyr.