Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Mae adroddiad newydd gan Gomisiynydd y Gymraeg, sef 'Darpariaeth Gofal Plant ac Addysg Blynyddoedd Cynnar Cyfrwng Cymraeg' yn dweud fel hyn:
'Er bod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o bwysigrwydd gofal plant i ddyfodol yr iaith, nid oes cynlluniau pendant a chadarn ynglŷn â sut y bwriedir integreiddio'r Cynllun 30 Awr a’r weledigaeth 2050.'
Mae 'Ffyniant i Bawb' yn nodi pwysigrwydd cydweithio ar draws adrannau er mwyn gwireddu uchelgais y Llywodraeth. Onid ydy’r diffyg cydweithio dros y Gymraeg a gofal plant yn arwydd o fethiant llwyr eich Llywodraeth chi i ddwyn ynghyd dau o’ch prif feysydd polisi?