Part of the debate – Senedd Cymru am 6:12 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Mike Hedges am alw'r ddadl hon, ac mae'n bleser gennyf ymateb iddo. Rwy'n hynod o falch o weld bod y Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu, yn eu rhagolwg diweddaraf, yn rhagweld y bydd Cymru'n gweld twf na welwyd ei debyg yn y sector adeiladu dros y pum mlynedd nesaf, ac mae'r rhagolygon hyn yn adlewyrchiad, rwy'n credu, o'n hymrwymiad parhaus i gynllunio seilwaith hirdymor a buddsoddi yma yng Nghymru. Ein bwriad, fel Llywodraeth, yw darparu llif clir o brosiectau sector cyhoeddus ar gyfer y diwydiant, ac mae'n amlwg eu bod yn gyfleoedd enfawr i'r sector adeiladu ar bob lefel, a'n bwriad yw gweithio gyda'r sector i fanteisio ar y cyfleoedd niferus hyn.
Mae datblygu a darparu polisi caffael arloesol wedi creu manteision clir ac uniongyrchol i Gymru a'i heconomi. Mae cymhwyso manteision cymunedol wedi arwain at filoedd o swyddi a lleoedd hyfforddi ar gyfer unigolion ar draws Cymru, ac mae wedi helpu busnesau bach a chanolig yn ein cadwyn gyflenwi i dyfu ac i ehangu. Mae cynhyrchu ynni carbon isel yn un maes sy'n cynnig cyfleoedd economaidd enfawr dros y blynyddoedd i ddod, a dyna pam rydym yn cefnogi'r bwriad i ddatblygu gorsaf ynni niwclear Wylfa Newydd ar Ynys Môn, a pham rydym wedi cefnogi'r morlyn llanw ym mae Abertawe ac yn parhau i wneud hynny.
Mae gwella a buddsoddi yn ein seilwaith trafnidiaeth yn faes twf allweddol arall yn y blynyddoedd i ddod, ac rydym yn parhau'n ymrwymedig i wella traffordd yr M4 o amgylch Casnewydd, y metros yn ne Cymru, a hefyd yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Mae buddsoddi mewn seilwaith yn ein helpu i dyfu'r economi. Mae hefyd, fodd bynnag, yn ein helpu i fynd i'r afael â phroblemau cymdeithasol, ac er gwaethaf yr hanes cryf sydd gennym o adeiladu mwy o gartrefi yng Nghymru, mae gennym ormod o bobl ifanc o hyd na allant gael troed ar yr ysgol dai. A dyna pam rydym wedi gosod targed uchelgeisiol o ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy, a pham rydym yn buddsoddi £1.3 biliwn i gefnogi'r sector tai dros y tymor Cynulliad hwn.
Rydym yn arbennig o awyddus i weld mwy o adeiladwyr tai sy'n fusnesau bach a chanolig eu maint yn mynd i mewn i'r sector adeiladu i arallgyfeirio'r farchnad a hyrwyddo arloesi. Bydd cronfa datblygu eiddo Cymru sy'n werth £30 miliwn, a gaiff ei rheoli gan Fanc Datblygu Cymru, yn parhau i gefnogi busnesau bach a chanolig nad ydynt yn gallu cael cyllid fforddiadwy o ffynonellau traddodiadol. Gall dulliau modern o adeiladu helpu hefyd i adeiladu cartrefi'n gyflymach ac yn fwy effeithlon, ac rydym wedi lansio ein rhaglen tai arloesol gwerth £20 miliwn yn benodol er mwyn cefnogi dulliau newydd ac amgen. Mae'n hollbwysig, o ystyried y lefel nas gwelwyd o'r blaen o ddatblygu seilwaith, fod gwaith adeiladu'n cael ei gydnabod fel dewis gyrfaol deniadol.
Mae'r sector adeiladu wedi dod at ei gilydd i ddatblygu Am Adeiladu—y porth gyrfaoedd rhyngweithiol cyntaf ar gyfer y diwydiant cyfan sy'n arddangos amrywiaeth eang o swyddi yn y diwydiant adeiladu a'r llwybrau gorau i mewn. Fel y dywedodd Mike Hedges eisoes, mae prentisiaethau wedi profi pa mor effeithiol ydynt yn y farchnad a chânt eu gwerthfawrogi'n fawr iawn gan gyflogwyr a'r prentisiaid eu hunain. Dyna pam rydym wedi ymrwymo i ddarparu o leiaf 100,000 o brentisiaethau i rai o bob oed yn ystod y tymor Cynulliad hwn.
Nawr, rhaid inni adeiladu'n ddeallus a chynaliadwy os ydym am i'r buddsoddiadau rydym yn eu gwneud yn awr fod yn werth chweil yn y tymor hir, a dyna pam rydym wedi rhoi datblygu cynaliadwy a datgarboneiddio ynghanol pob dim a wnawn fel Llywodraeth, a dyna pam rydym yn sefydlu comisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru. Fel rwy'n dweud, rwyf am weld cymaint â phosibl o'r buddsoddiad a wnaed yng Nghymru yn aros yma yng Nghymru, gan ein helpu i greu swyddi gwell yn nes at adref.
Mae ein strategaeth genedlaethol 'Ffyniant i Bawb' yn canolbwyntio sylw'r Llywodraeth gyfan ar nifer o feysydd i gyflawni effeithiau go iawn, a ddoe, cyhoeddais y cynllun gweithredu economaidd a fydd yn ein helpu i weithio gyda'r gymuned fusnes i ymateb i'r heriau allweddol hynny. Mae'r cynllun yn amlinellu fy nod i ddarparu seilwaith cysylltiedig a modern i ateb her cynhyrchiant a hefyd i sbarduno twf economaidd cynaliadwy wrth i ni adeiladu fel na wnaethom erioed o'r blaen.