– Senedd Cymru am 5:57 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Mike Hedges. Fe arhoswn ni, Mike, nes y bydd pobl yn symud.
Roeddwn yn meddwl eich bod am ddweud hynny.
Os ydych yn mynd, a wnewch chi fynd o'r Siambr yn gyflym os gwelwch yn dda?
Nid yw'n beth da cael eich dewis ar gyfer yr wythnos olaf o'r tymor.
Iawn. O'r gorau, symudwn yn awr at y ddadl fer a galwaf ar Mike Hedges i siarad am y pwnc y mae wedi ei ddewis. Mike.
Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Rwy'n gobeithio dangos pwysigrwydd y diwydiant adeiladu, pwysigrwydd prentisiaethau a chael gweithlu adeiladu medrus, pwysigrwydd cefnogi a thyfu cwmnïau adeiladu yng Nghymru a hefyd, pwysigrwydd prosiectau mawr fel y morlyn llanw yn Abertawe. Pe bawn wedi bod yn gwneud yr araith hon ddwy flynedd yn ôl, y peth trist yw y buaswn yn dal i fod wedi dweud 'pwysigrwydd prosiectau mawr fel y morlyn llanw yn Abertawe' y pryd hwnnw hefyd. Credaf mai un o'r pethau tristaf yw bod gennym lawer o brosiectau mawr iawn yng Nghymru sydd i'w gweld yn cymryd llawer gormod o amser i ddigwydd.
Arferai cydweithiwr i mi ar y cyngor sir ddweud mai llwyddiant yw cael llawer o graeniau ar y gorwel. Yr hyn a olygai oedd bod yr economi'n ffynnu pan fo adeiladu'n ffynnu. Mae gennyf ddiddordeb yn y cwmnïau adeiladu lleol ac ymwelais â Dawnus, Hygrove ac RDM Electricals, ymhlith eraill, yn ystod y misoedd diwethaf. Er bod gennym nifer fawr o gwmnïau adeiladu bach a chanolig eu maint gyda llawer ohonynt yn is-gontractio ar brosiectau mawr, un o'n gwendidau yng Nghymru yw mai'r hyn sy'n brin gennym ar hyn o bryd yw cwmnïau adeiladu mawr. Yr hyn sydd angen i ni ei wneud dros ein heconomi yw tyfu rhai o'r cwmnïau adeiladu canolig eu maint hyn yn gwmnïau adeiladu mawr.
Mae adeiladu yn hynod o bwysig. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos, ym Mhrydain, fod dros 2 filiwn o bobl yn gweithio yn y diwydiant adeiladu. Yng Nghymru, mae yna dros 90,000, sef bron un o bob pump o'r gweithlu. Rhagwelir y bydd y diwydiant adeiladu yng Nghymru yn tyfu'n gyflym—yn gyflymach nag unman arall ym Mhrydain hyd at 2020. Yn ôl gwaith ymchwil manwl gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, rhagwelir y bydd y sector yng Nghymru yn cael cyfradd dwf gyfartalog flynyddol o 7.1 y cant mewn allbwn, o gymharu â 2.5 y cant ar gyfer gweddill y DU rhwng 2016 a 2020. Yn ystod y cyfnod hwn disgwylir y bydd nifer y rhai a gyflogir yn y sector yn codi dros 120,000. Rhagwelir mai Llundain, de-orllewin a gogledd-orllewin Lloegr yn unig a fydd yn gweld mwy o gynnydd na hynny. Mae cyflogaeth yn y sector adeiladu yn debygol o gyrraedd ei uchafbwynt yn 2008 yn ystod y flwyddyn nesaf a rhagori arno o 5 y cant erbyn 2020 yn ôl adroddiad rhagolwg y Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu mewn cydweithrediad ag Experian ar gyfer 2016-2020.
Bydd yr ehangu hwn yn cael ei ysgogi gan amrywiaeth o brosiectau seilwaith mawr. Mae bron fel pe baem yn aros amdanynt, onid yw? Prosiectau seilwaith fel Wylfa—rydym yn dal i aros. Y morlyn llanw—rydym yn aros. Mae'r gwaith a wnaed gan awdurdodau lleol ar ysgolion a rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, sydd wedi bod yn llwyddiant mawr ac wedi cael cefnogaeth enfawr ar draws y Siambr, wedi gwneud gwahaniaeth o ran cyflogaeth, a gwnaeth wahaniaeth o ran ansawdd yr ysgolion y mae disgyblion yn mynd iddynt. Rwy'n cofio unwaith, pan oeddwn gyda'r cyngor sir, arferem ddweud, yn realistig, ein bod bellach yn disgwyl i'n hysgolion bara ychydig yn hirach na chestyll canoloesol, oherwydd yn ôl y gyfradd roeddem yn adeiladu rhai newydd roedd hi'n mynd i gymryd tua 700 mlynedd i gael ysgolion newydd yn lle'r holl ysgolion yn Abertawe. Yr unig ffordd o gael ysgol newydd oedd pe bai'r hen un yn llosgi'n ulw. Roedd penaethiaid yn weddol falch pan welent fod eu hysgol wedi llosgi'n ulw, oherwydd fe wyddent eu bod am gael un newydd, ac nid dyna'r cyfeiriad y dymunwn fynd iddo mewn gwirionedd.
Felly, rydym wedi cael y prosiectau mawr hyn. Mae Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Sir Gaerfyrddin a chyngor Abertawe, ymhlith eraill, yn ymroi i adeiladu nifer fawr o dai cyngor unwaith eto, ac rwy'n falch iawn o weld hyn yn digwydd. Rydym yn sôn am brinder tai yn eithaf rheolaidd, gan gynnwys y prynhawn yma, a chredaf fod adeiladu, adeiladu tai, yn hynod o bwysig. Mae rhagolygon twf cryf ar gyfer y diwydiant adeiladu yng Nghymru, wedi ei ysgogi gan y prosiectau seilwaith, gan ysgolion, gan dai. Mae adeiladu'n chwarae rhan hanfodol yn sicrhau economi fywiog ac amgylchedd o ansawdd. Gyda'r amcangyfrif o wariant ar gyfer y sector yn fwy na £2.3 biliwn y flwyddyn, mae'r sector yn cyfrannu tua 10 y cant o gynnyrch domestig gros. Mae yna fwy na 12,000 o gwmnïau sy'n gysylltiedig â'r sector, gan gyflogi mwy na 100,000 o bobl, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol megis cynllunwyr, penseiri, syrfewyr a pheirianwyr adeiladu yn ogystal â'r cwmnïau adeiladu traddodiadol sy'n gyfrifol am adeiladu newydd a gwaith cynnal a chadw ar ein hadeiladau hanesyddol ac adeiladau treftadaeth.
Credaf efallai mai dyna un o'r problemau sydd gennym yw bod pobl yn meddwl am adeiladu ac yn meddwl am bobl yn rhoi un fricsen ar ben y llall. Maent yn anghofio am y swyddi medrus iawn sy'n bodoli yr holl ffordd drwodd. Bydd unrhyw un sydd wedi ceisio adeiladu wal yn gwybod bod rhoi un fricsen ar ben y llall a chael wal aros i fyny yn anhygoel o anodd. Ond mae yna swyddi proffesiynol medrus hefyd—penseiri neu syrfewyr meintiau. Mae'n fusnes medrus iawn, a chredaf y byddai'r rhan fwyaf ohonom yn yr ystafell hon, mae'n debyg, pe baem yn ceisio adeiladu tŷ, fwy na thebyg yn ei weld yn disgyn i lawr wedi i ni gyrraedd y llawr cyntaf, pe baem yn cyrraedd mor bell â hynny. Felly, mae tai'n eithriadol o bwysig i bob un ohonom.
Mae her newid hinsawdd yn galw am ymagwedd fwy cynaliadwy tuag at ddatblygu. Mae Cymru wedi ymrwymo i leihau ei hôl troed carbon. Mae'r newidiadau hyn yn creu heriau newydd i fusnesau cynhenid sy'n ymwneud â datblygu, cynnal ac adnewyddu tai ac adeiladau eraill. Roeddwn yn ffodus iawn i gael ymweld gyda chydaelodau eraill o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, â'r adeilad SOLCER ychydig y tu allan i'r Pîl, i weld sut y gallwch gael adeilad sy'n darparu ynni i'r grid mewn gwirionedd yn hytrach na'i gymryd ohono. Rwyf hefyd yn ymwybodol iawn o'r gwaith rhagorol a wneir gan gyngor Abertawe yn eu datblygiad newydd yn ardal Portmead a Blaen-y-maes. Mae cwmnïau yng Nghymru ar flaen y gad yn datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r technolegau arloesol sydd eu hangen i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd y mae'r heriau hyn yn eu creu. Mae Llywodraeth Cymru a'r diwydiant yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau eu bod yn gallu darparu'r atebion amgylcheddol a charbon isel y mae cleientiaid eu heisiau yn awr ac yn y dyfodol, gan alluogi adfywio cymdeithasol a chymunedol drwy hyn yn ogystal â chystadleurwydd busnes.
Dengys ymchwil gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig fod prinder sgiliau yn parhau i fod yn broblem, gyda syrfewyr meintiau yn benodol yn brin, a nododd 51 y cant o'r ymatebwyr anawsterau o ran recriwtio syrfewyr meintiau. Y peth allweddol yw bod angen inni gefnogi ein busnesau bach a chanolig. Mae hyn yn rhywbeth rwy'n siarad yn ei gylch o hyd wrth y Gweinidog, yn gyhoeddus ac yn breifat. Mae maint y contractau a roddir allan gan Lywodraeth Cymru yn bwysig. Mae contractau mawr iawn yn golygu bod cwmnïau maint canolig yng Nghymru yn cael eu heithrio. Er bod rhannu contractau mewn meintiau digon bach i gwmnïau o Gymru allu cynnig amdanynt yn ychwanegu gweinyddiaeth ychwanegol, mae'n cynyddu cystadleuaeth ac mae'r manteision i economi Cymru yn gwrthbwyso hynny gryn dipyn. Hefyd mae benthyciadau yn erbyn incwm a gwarantau yn caniatáu i gwmnïau llai gynnig amdanynt. Os ydym o ddifrif ynglŷn â thyfu cwmnïau adeiladu bach, mae angen inni gael strategaeth o ran sut y gallwn eu cynorthwyo i fod yn brif gontractwyr, nid is-gontractwyr yn unig, pan fyddant yn is-gontractio gyda'r holl elw, neu'r rhan fwyaf o'r elw, yn gwneud ei ffordd i'r cwmni adeiladu mawr sy'n is-gontractio iddynt.
A gaf fi siarad am y morlyn llanw? Byddai wedi gallu bod yn bwnc y 15 munud cyfan. Mae'n brosiect enfawr. Mae'n hynod o bwysig i Abertawe. Mae'n hynod o bwysig i Gymru. Mae'n gynllun braenaru ar gyfer y sector. Os caiff Abertawe y morlyn llanw—gallwn ddweud 'Pan gaiff Abertawe y morlyn llanw', oherwydd mae'n anochel ei fod yn mynd i ddod. Os mai ni yw'r morlyn llanw cyntaf, byddwn yn adeiladu'r set sgiliau, byddwn yn adeiladu'r gallu cynllunio, byddwn yn adeiladu'r cwmnïau sy'n gallu bod yn rhan o'r gwaith adeiladu. Bydd yn eithaf tebyg i'r hyn sydd wedi digwydd yn Aarhus yn Nenmarc, lle roeddent ymhlith y rhai cyntaf i ddatblygu tyrbinau gwynt. Yn sydyn, maent bellach yn anfon eu tyrbinau gwynt ledled y byd, am mai hwy yw'r bobl sy'n gallu gwneud hynny, hwy yw'r rhai sydd â'r sylfaen wybodaeth, y rhai sydd â'r gadwyn gyflenwi. Mae'n gweithio mor anhygoel o dda. Os mai ni fydd y degfed, ni fydd yn ei brynu i mewn. Mae'n hynod o bwysig i ni fod yn gyntaf.
Rwyf am ddweud hyn: adolygiad Hendry, y credai llawer ohonom sy'n besimistaidd ei fod yn ei wthio i'r naill ochr, yw'r mwyaf cadarnhaol a glywais erioed. Rwy'n dyfynnu:
'mae'r dystiolaeth yn dangos yn glir, yn fy marn i, bod môr-lynnoedd llanw yn gallu bod yn rhan gost-effeithiol o gymysgedd ynni'r Deyrnas Unedig.'
Yn y pen draw, mae Llywodraeth y DU yn wynebu
'[p]enderfyniad strategol, gymaint ag y mae'n benderfyniad economaidd.'
Mae symud ymlaen gyda morlyn braenaru ym mae Abertawe, mor fuan ag sy'n ymarferol yn rhesymol yn 'bolisi diedifar.'
Credaf y gallwn gymryd na fyddai Calder Hall, Windscale neu Sellafield erioed wedi cael eu hadeiladu pe bai'r un rheolau'n bodoli yn y 1950au ag sy'n bodoli yn awr. Rydym wedi cael newidiadau technolegol—mae rhai wedi gweithio ac mae rhai heb weithio. Mae llawer o bobl yn cofio'r dadleuon dros Betamax yn erbyn VHS—mae honno'n hen ddadl sydd wedi diflannu—a hofranlongau oedd cerbyd y dyfodol yn mynd i fod. Ond rhaid i chi roi cynnig arni, oherwydd mae rhai o'r pethau hyn wedi gweithio mewn gwirionedd. Credaf ei bod hi'n wirioneddol bwysig ein bod yn rhoi cynnig arni. Ni all wneud unrhyw niwed. Ar y gwaethaf, yr hyn fydd gennych yn y pen draw fydd amddiffyniad rhag llifogydd yn Abertawe.
Mae'n fuddsoddiad cyfalaf o £1.3 biliwn; maent yn targedu 50 y cant o'r gwariant yng Nghymru; allbwn pŵer net dibynadwy o dros 530 GWh, digon i ddiwallu galw 90 y cant o'r cartrefi ym mae Abertawe am drydan blynyddol am 120 o flynyddoedd; gwaith uniongyrchol i dros 2,000 o bobl yn y diwydiant adeiladu; £316 miliwn o werth ychwanegol gros drwy adeiladu; yr allwedd yw buddsoddi mewn tri chyfleuster gweithgynhyrchu newydd yng Nghymru—un ar gyfer peiriannu a gwaith gosod y tyrbinau ymlaen llaw, un ar gyfer cynhyrchu cydrannau dur trwm, ac un ar gyfer castio cydrannau concrid ymlaen llaw; proses 12 mis o symud i'r cam negodi terfynol gyda Llywodraeth y DU i ddechrau adeiladu. Nid yw'n ymwneud â swyddi adeiladu yn unig, sy'n dda iawn ynddynt eu hunain, ond y ffaith y byddwch yn creu diwydiant newydd. Rwy'n teimlo ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn cael y morlyn llanw ar gyfer Abertawe. Efallai y gallaf ddefnyddio'r term y mae pobl yn aml yn ei ddefnyddio pan fydd datblygiadau'n digwydd mewn rhannau eraill o Gymru: bydd yn dda i Gymru. Efallai na fydd pobl yn y Rhyl yn siarad amdano, ond mae'n mynd i fynd i fyny i Fae Colwyn a'r Rhyl, mae'n mynd i fynd i bob cwr o Gymru. Rydym yn braenaru, bydd gweddill Cymru'n dilyn.
Tai yw bara menyn y diwydiant adeiladu. Mae wedi newid llawer yn y 50 mlynedd diwethaf, nid o reidrwydd er gwell i gyd. Cafwyd cynnydd mawr mewn eiddo gwag, ac mae hynny'n anffodus. Unwaith eto, rwy'n rhoi clod i'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn eu dull deublyg o roi benthyciadau i bobl ddod ag eiddo yn ôl i ddefnydd, a hefyd y cyfle i gynyddu'r dreth gyngor ar eiddo gwag. Mae yna bobl sy'n gadael eiddo'n wag, eiddo braf iawn yn aml, am eu rhesymau eu hunain, ond mae'n cyfyngu ar faint o dai sydd ar gael yn y gymuned. Rydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr aelwydydd un person a'r nifer o aelwydydd pensiynwyr. Rydym wedi gweld newid yn ôl i rentu'n breifat. Mae lefelau tai cyngor wedi gostwng. Cafwyd twf sylweddol mewn cymdeithasau tai. Bellach, mae'r sector rhentu preifat wedi cynyddu'n enfawr er ei bod yn ymddangos ei fod bron â diflannu yn y 1960au a'r 1970au—ar wahân i fyfyrwyr.
Mae gwaith adeiladu'n bwysig. Mae angen inni adeiladu tai. Mae angen inni adeiladu tai ar gyfer pobl. Rydym newydd gael dadl ar dai, ac nid oeddwn yn gwybod ei bod hi'n mynd i ddigwydd pan gyflwynais y ddadl hon. Mae'n ymwneud ag adeiladu tai ac adeiladu ystadau newydd. Pa fath o dai y mae pobl eu heisiau? Nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn hynod uchelgeisiol. Byddent yn eithaf hapus, fel fi, i fyw mewn tŷ pâr tair ystafell wely, pa un a yw'n cael ei ddarparu gan gymdeithas dai, y cyngor, neu pa un a ydym yn berchen arno ein hunain. Dyna beth y maent ei eisiau—cael hynny wedi ei wneud mewn gwirionedd. A gaf fi ddweud pa mor hapus wyf fi ynghylch datblygiad Hygrove ar hen safle bysiau Morris Brothers yn Abertawe? Mae'n adeiladu dros 200 o dai, mae 20 ohonynt ar gyfer y gymdeithas dai, a'r gweddill i'w gwerthu. Mae'n ddatblygiad sydd wedi dod â safle tir llwyd yn ôl i ddefnydd. Mae'n cynhyrchu tai o ansawdd da. Sut y gwn eu bod yn gartrefi o ansawdd da? Oherwydd maent wedi cynhyrchu tua 60 neu 70 bellach ac nid oes arwydd 'ar werth' wrth unrhyw un ohonynt. Nid ydych yn gweld hynny'n aml mewn ystadau newydd.
O ran prentisiaethau, mae adeiladu angen gweithwyr medrus. Mae angen prentisiaid i ddod drwodd yn lle crefftwyr sy'n ymddeol. Aethom drwy gyfnod o amser heb ddigon o brentisiaid. Mae angen datrys hyn. Rwy'n ymwybodol iawn ac yn gwerthfawrogi'r gwaith a wneir gan CITB, a gwn fod Llywodraeth Cymru yn ceisio gweithio gyda chyflogwyr. Mae pob prentisiaeth yn cynnwys cymhwyster cymhwysedd priodol i lefel 2 o leiaf, cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru, cymhwyster gwybodaeth dechnegol, neu gymwysterau neu ofynion eraill, fel y nodwyd gan yr alwedigaeth benodol. Ond un o'r anawsterau mawr yw cael cwmnïau i gyflogi pobl. Credaf fod hynny'n broblem yn y sector adeiladu oherwydd bod gennym gynifer o gwmnïau adeiladu bach iawn nad ydynt yn gallu cynnig prentisiaethau. A dyna pam, os gallwn ddechrau tyfu rhai o'r cwmnïau hyn, y gallwch sicrhau system dda iawn. Mae cwmnïau'n tyfu, maent yn dechrau cael contractau mwy, maent yn cyflogi prentisiaid, ac mae pawb yn elwa. Mae economi Cymru'n elwa, mae'r bobl sy'n cyflogi'n elwa, ac rydym ni fel cymdeithas yn elwa.
Mae adeiladu yn ganolog i economi Cymru. Rydym i gyd yn dibynnu arno. Mae angen inni dyfu. Ond a gaf fi ddweud, fel rwy'n ei wneud bob amser—? Rwyf bob amser yn ceisio gorffen, fel yr arferwn ei wneud pan oeddwn yn dysgu, ar y pethau y credaf eu bod yn wirioneddol bwysig yn fy marn i. Mae angen inni dyfu mwy o gwmnïau adeiladu mawr sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. Mae angen inni eu cefnogi gyda chontractau sy'n mynd allan—yn enwedig contractau Llywodraeth Cymru—sy'n golygu y gallant wneud cynnig. Os oes gennych gontract adeiladu i adeiladu chwe ysgol am £70 miliwn, ni fydd gennych gwmni adeiladu o Gymru yn gallu cynnig am y gwaith. Torrwch ef yn chwe ysgol am £10 miliwn yr un, bydd gennych gwmnïau adeiladu yng Nghymru sy'n gallu cynnig am y gwaith. Mae gennym brosiectau mawr ar y ffordd, ond ni allwn ddibynnu'n unig ar brosiectau mawr, er mor bwysig ydynt. Mae angen inni sicrhau bod gennym weithlu medrus, fod gennym gyfle i ddatblygu sgiliau adeiladu ac yn bwysicaf oll, mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn cael y tai sydd eu hangen ar ein pobl. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. A gaf fi alw ar Ken Skates fel Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Mike Hedges am alw'r ddadl hon, ac mae'n bleser gennyf ymateb iddo. Rwy'n hynod o falch o weld bod y Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu, yn eu rhagolwg diweddaraf, yn rhagweld y bydd Cymru'n gweld twf na welwyd ei debyg yn y sector adeiladu dros y pum mlynedd nesaf, ac mae'r rhagolygon hyn yn adlewyrchiad, rwy'n credu, o'n hymrwymiad parhaus i gynllunio seilwaith hirdymor a buddsoddi yma yng Nghymru. Ein bwriad, fel Llywodraeth, yw darparu llif clir o brosiectau sector cyhoeddus ar gyfer y diwydiant, ac mae'n amlwg eu bod yn gyfleoedd enfawr i'r sector adeiladu ar bob lefel, a'n bwriad yw gweithio gyda'r sector i fanteisio ar y cyfleoedd niferus hyn.
Mae datblygu a darparu polisi caffael arloesol wedi creu manteision clir ac uniongyrchol i Gymru a'i heconomi. Mae cymhwyso manteision cymunedol wedi arwain at filoedd o swyddi a lleoedd hyfforddi ar gyfer unigolion ar draws Cymru, ac mae wedi helpu busnesau bach a chanolig yn ein cadwyn gyflenwi i dyfu ac i ehangu. Mae cynhyrchu ynni carbon isel yn un maes sy'n cynnig cyfleoedd economaidd enfawr dros y blynyddoedd i ddod, a dyna pam rydym yn cefnogi'r bwriad i ddatblygu gorsaf ynni niwclear Wylfa Newydd ar Ynys Môn, a pham rydym wedi cefnogi'r morlyn llanw ym mae Abertawe ac yn parhau i wneud hynny.
Mae gwella a buddsoddi yn ein seilwaith trafnidiaeth yn faes twf allweddol arall yn y blynyddoedd i ddod, ac rydym yn parhau'n ymrwymedig i wella traffordd yr M4 o amgylch Casnewydd, y metros yn ne Cymru, a hefyd yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Mae buddsoddi mewn seilwaith yn ein helpu i dyfu'r economi. Mae hefyd, fodd bynnag, yn ein helpu i fynd i'r afael â phroblemau cymdeithasol, ac er gwaethaf yr hanes cryf sydd gennym o adeiladu mwy o gartrefi yng Nghymru, mae gennym ormod o bobl ifanc o hyd na allant gael troed ar yr ysgol dai. A dyna pam rydym wedi gosod targed uchelgeisiol o ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy, a pham rydym yn buddsoddi £1.3 biliwn i gefnogi'r sector tai dros y tymor Cynulliad hwn.
Rydym yn arbennig o awyddus i weld mwy o adeiladwyr tai sy'n fusnesau bach a chanolig eu maint yn mynd i mewn i'r sector adeiladu i arallgyfeirio'r farchnad a hyrwyddo arloesi. Bydd cronfa datblygu eiddo Cymru sy'n werth £30 miliwn, a gaiff ei rheoli gan Fanc Datblygu Cymru, yn parhau i gefnogi busnesau bach a chanolig nad ydynt yn gallu cael cyllid fforddiadwy o ffynonellau traddodiadol. Gall dulliau modern o adeiladu helpu hefyd i adeiladu cartrefi'n gyflymach ac yn fwy effeithlon, ac rydym wedi lansio ein rhaglen tai arloesol gwerth £20 miliwn yn benodol er mwyn cefnogi dulliau newydd ac amgen. Mae'n hollbwysig, o ystyried y lefel nas gwelwyd o'r blaen o ddatblygu seilwaith, fod gwaith adeiladu'n cael ei gydnabod fel dewis gyrfaol deniadol.
Mae'r sector adeiladu wedi dod at ei gilydd i ddatblygu Am Adeiladu—y porth gyrfaoedd rhyngweithiol cyntaf ar gyfer y diwydiant cyfan sy'n arddangos amrywiaeth eang o swyddi yn y diwydiant adeiladu a'r llwybrau gorau i mewn. Fel y dywedodd Mike Hedges eisoes, mae prentisiaethau wedi profi pa mor effeithiol ydynt yn y farchnad a chânt eu gwerthfawrogi'n fawr iawn gan gyflogwyr a'r prentisiaid eu hunain. Dyna pam rydym wedi ymrwymo i ddarparu o leiaf 100,000 o brentisiaethau i rai o bob oed yn ystod y tymor Cynulliad hwn.
Nawr, rhaid inni adeiladu'n ddeallus a chynaliadwy os ydym am i'r buddsoddiadau rydym yn eu gwneud yn awr fod yn werth chweil yn y tymor hir, a dyna pam rydym wedi rhoi datblygu cynaliadwy a datgarboneiddio ynghanol pob dim a wnawn fel Llywodraeth, a dyna pam rydym yn sefydlu comisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru. Fel rwy'n dweud, rwyf am weld cymaint â phosibl o'r buddsoddiad a wnaed yng Nghymru yn aros yma yng Nghymru, gan ein helpu i greu swyddi gwell yn nes at adref.
Mae ein strategaeth genedlaethol 'Ffyniant i Bawb' yn canolbwyntio sylw'r Llywodraeth gyfan ar nifer o feysydd i gyflawni effeithiau go iawn, a ddoe, cyhoeddais y cynllun gweithredu economaidd a fydd yn ein helpu i weithio gyda'r gymuned fusnes i ymateb i'r heriau allweddol hynny. Mae'r cynllun yn amlinellu fy nod i ddarparu seilwaith cysylltiedig a modern i ateb her cynhyrchiant a hefyd i sbarduno twf economaidd cynaliadwy wrth i ni adeiladu fel na wnaethom erioed o'r blaen.
Diolch yn fawr iawn. Dyna ddiwedd y trafodion am heddiw. Diolch.