Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Tynnwyd fy sylw at enghreifftiau diweddar yn Abertawe lle y bu'n rhaid i gleifion—wel, bu'n rhaid i un claf aros tair awr a hanner mewn sefyllfa frys am ambiwlans, a bu claf arall yn aros pedair awr ar ôl dioddef cnawdnychiant myocardaidd. Yn eu cartref, buont yn aros am bedair awr i'r ambiwlans gyrraedd. Bu claf arall yn aros am bum awr yn y gymuned i ambiwlans gyrraedd. Yn ychwanegol at hynny, rwy'n ymwybodol o bobl sydd wedi gorfod aros ar drolïau am dros 20 awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, ar ôl cael trawiad ar y galon hefyd. Nawr, rwy'n derbyn popeth a ddywedwyd hyd yn hyn, fod hyn yn amlwg yn ymwneud â gwella llif cleifion drwy'r ysbytai, ac wrth gwrs, rwy'n ymwybodol fod llawer o waith da yn cael ei wneud, ac ym mhob un o'r achosion hyn a amlinellwyd gennyf, ni fu unrhyw beth ond y ganmoliaeth uchaf i'r nyrsys a'r meddygon a fu'n ymwneud â'r achosion. Ond mae'r amseroedd aros hynny yno o hyd. Felly, beth arall y gallwch ei wneud i fynd i'r afael â'r materion hyn?