2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 13 Rhagfyr 2017.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys yng Ngorllewin De Cymru? OAQ51478
Mae perfformiad y gwasanaeth ambiwlans yn ardal bwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg wedi rhagori ar y targed o wyth munud ar gyfer galwadau coch ym mhob un o'r 19 mis diwethaf. Ym mis Hydref, roedd yr amser ymateb arferol ar gyfer galwadau coch ychydig dros bum munud, ac am alwadau ambr, roedd yr amser ymateb arferol yn llai nag 20 munud.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym wedi gwneud cryn dipyn o gynnydd wrth ddelio â galwadau lle y ceir bygythiad uniongyrchol i fywyd, ond heb fod mor dda mewn perthynas â galwadau ambr. Y mis diwethaf, arhosodd dros 35 y cant o alwadau ambr dros hanner awr am ymateb ym Mhrifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Roedd yr amser aros hiraf yng Nghymru yn 23 awr, ac mae hynny'n syfrdanol. O gofio bod pobl y tybir eu bod wedi cael strôc yn cael eu categoreiddio fel galwadau ambr, ac y gall y cleifion hyn aros hyd at 10 awr, gallai hyn amharu ar eu hadferiad. Roedd y model ymateb newydd i fod i hidlo galwadau nad oedd arnynt angen ymateb golau glas er mwyn rhyddhau adnoddau i ymateb i'r galwadau a oedd eu hangen. Ysgrifennydd y Cabinet, beth yn fwy y gall eich Llywodraeth ei wneud i sicrhau nad yw cleifion yng Nghymru yn aros hyd at ddiwrnod am ambiwlans?
Wel, mae hyn yn amlwg yn destun pryder, nid yn unig i'r cyhoedd yn gyffredinol, ond i mi yn bersonol hefyd. Rwyf wedi gweld ac wedi nodi rhywfaint o bryder yn y gwerthusiad annibynnol o'r model ymateb clinigol newydd ynglŷn â ffiniau categoreiddio, rhwng coch ac ambr, fel un mater sy'n cael sylw gan y pwyllgor gwasanaethau ambiwlans brys ac ymddiriedolaeth gwasanaethau ambiwlans Cymru, yn ogystal â'r amseroedd aros hirach. Oherwydd, er bod ein hamseroedd ar gyfartaledd yn rhesymol, mae gormod o bobl yn aros yn rhy hir. Ceir enghreifftiau o bobl yn aros am gyfnodau hir iawn, felly rwyf eisoes wedi gofyn i brif gomisiynydd y gwasanaethau ambiwlans wneud gwaith i ganfod pam fod hynny'n digwydd, ac yna hefyd i'n system gyfan edrych ar beth sydd angen ei newid er mwyn datrys hynny. Oherwydd yn gyffredinol, rydym yn darparu gwasanaeth da, a dylem fod yn falch o'r gwelliannau rydym wedi dewis eu gwneud. Derbyniodd 96 y cant o'r bobl y tybir eu bod wedi cael strôc y pecyn gofal priodol—gwelliant sylweddol o ran ansawdd y gofal a ddarperir. Mae'r ymateb cyfartalog i alwad strôc yn llai na 14 munud. Ond mae rhai pobl yn aros yn rhy hir. Dylem fod yn onest am hynny, cydnabod hynny, a cheisio gwella hynny. Dyna'n union rwyf wedi gofyn i'r gwasanaeth iechyd ei wneud.
Ysgrifennydd Cabinet, mae cyd-ymatebwyr yn rhan hanfodol o ddarpariaeth y gwasanaeth ambiwlans, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Mae eu rôl hefyd i'w theimlo'n gynyddol oherwydd, pan fyddant yn ymateb i alwadau oren, neu wyrdd hyd yn oed, yr hyn a welant yw person yr oedd ei statws yn goch, neu fod eu statws wedi troi'n goch oherwydd yr oedi, a gallant naill ai ymdrin â hynny eu hunain neu ei uwchgyfeirio. A allwch gadarnhau bod y gwasanaeth ambiwlans wedi gofyn i chi drosglwyddo'r cyfrifoldeb am ariannu'r gwasanaeth hanfodol hwn i'r byrddau iechyd, sydd eisoes yn gorwario, heblaw am un, a'u bod wedi gofyn i chi sicrhau mai ar gyfer galwadau coch yn unig y dylid anfon cyd-ymatebwyr, gan beryglu diogelwch y bobl y mae eu galwadau wedi cael eu categoreiddio'n anghywir, neu sydd wedi mynd yn fwy difrifol oherwydd yr oedi? Os ydych, ai 'na' fydd eich ateb i'r ddau gwestiwn hynny?
Nid oes unrhyw un wedi gofyn i mi wneud y dewisiadau hynny. Maent yn ddewisiadau gweithredol i'r gwasanaeth eu gwneud ynglŷn â'r ffordd gywir o ddefnyddio gwasanaethau. Os oes dewis i'w wneud ynglŷn â beth yw'r peth priodol i'w wneud o safbwynt clinigol, unwaith eto, nid yw hynny'n rhywbeth y credaf y dylwn ymyrryd ynddo fel Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd. Cyflwynasom fodel newydd yn seiliedig ar dystiolaeth glinigol a chyngor i geisio rhoi terfyn ar ymyrraeth gan wleidyddion a thargedau nad ydynt o reidrwydd yn gwneud synnwyr. Mae'n rhaid cymhwyso hynny hefyd o ran sut y gwnawn y defnydd gorau o'n staff er mwyn darparu'r ymateb priodol. Mae cyd-ymatebwyr ac ymatebwyr cyntaf cymunedol yn rhan o'r hyn sy'n gwneud gwahaniaeth i bobl, yn enwedig i bobl sydd angen ymateb o fewn wyth munud. Felly, mae hyn yn ymwneud â deall sut i'w defnyddio'n briodol, sut i'w defnyddio'n effeithiol, ac mae gwaith i'w wneud unwaith eto ynghylch ceisio gwneud y defnydd gorau o bobl a deall o ble y dônt—a ydynt yno o wasanaethau cyhoeddus eraill neu o dîm yr ymatebwyr cyntaf cymunedol. Felly, mae'n faes y mae gennyf ddiddordeb ynddo, o ran gofyn cwestiynau ynglŷn â beth allai a beth ddylai ddigwydd, ond nid wyf am ymyrryd a rhoi cyfarwyddyd ynghylch materion gweithredol, na materion lle y dylai barn glinigol, yn wir, arwain y ffordd y mae'r gwasanaeth yn defnyddio ei adnoddau yn briodol.
Tynnwyd fy sylw at enghreifftiau diweddar yn Abertawe lle y bu'n rhaid i gleifion—wel, bu'n rhaid i un claf aros tair awr a hanner mewn sefyllfa frys am ambiwlans, a bu claf arall yn aros pedair awr ar ôl dioddef cnawdnychiant myocardaidd. Yn eu cartref, buont yn aros am bedair awr i'r ambiwlans gyrraedd. Bu claf arall yn aros am bum awr yn y gymuned i ambiwlans gyrraedd. Yn ychwanegol at hynny, rwy'n ymwybodol o bobl sydd wedi gorfod aros ar drolïau am dros 20 awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, ar ôl cael trawiad ar y galon hefyd. Nawr, rwy'n derbyn popeth a ddywedwyd hyd yn hyn, fod hyn yn amlwg yn ymwneud â gwella llif cleifion drwy'r ysbytai, ac wrth gwrs, rwy'n ymwybodol fod llawer o waith da yn cael ei wneud, ac ym mhob un o'r achosion hyn a amlinellwyd gennyf, ni fu unrhyw beth ond y ganmoliaeth uchaf i'r nyrsys a'r meddygon a fu'n ymwneud â'r achosion. Ond mae'r amseroedd aros hynny yno o hyd. Felly, beth arall y gallwch ei wneud i fynd i'r afael â'r materion hyn?
Credaf eich bod yn tynnu sylw at y pwynt roeddwn yn ceisio mynd i'r afael ag ef mewn ymateb i gwestiwn atodol Caroline Jones, fod ein gwasanaeth, yn gyffredinol, yn dda. Mae'r mwyafrif helaeth o bobl yn derbyn ymateb amserol sy'n diwallu'r angen gofal, a bellach, mae gennym well gobaith o gyrraedd y bobl â'r lefelau uchaf o angen gofal oherwydd y newidiadau rydym wedi'u gwneud. Ond cydnabyddir bod rhai pobl yn aros yn rhy hir. Rydych wedi tynnu sylw at bedair enghraifft lle na fuaswn yn ceisio dweud wrthych fod popeth yn iawn. Byddai gennyf ddiddordeb, pe baech am ysgrifennu ataf gyda rhagor o fanylion am y rheini, er mwyn i mi allu sicrhau eu bod yn cael eu hymchwilio'n iawn, ond mae hyn yn ymwneud â pheidio â sefyll yma a dweud bod popeth yn ofnadwy, ac yn yr un modd, ceisio peidio â sefyll yma a dweud, 'Mae popeth yn iawn, felly peidiwch â beirniadu.' Mae'n bwysig inni ddeall beth nad yw'n gweithio cystal, a cheisio mynd i'r afael â hynny mewn ffordd onest. Felly, os ydych am roi'r enghreifftiau unigol a nodwyd gennych i mi, byddaf yn ystyried a ydynt yn faterion unigol neu'n rhan o'r her i'r system gyfan rwyf eisoes wedi gofyn i brif gomisiynydd y gwasanaethau ambiwlans fynd i'r afael â hi ar ein rhan.