Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Wel, yn anad dim arall, rwy'n eich canmol am eich gonestrwydd. Nawr, yn ôl ffigurau a gafwyd gan Crohn's & Colitis UK, yn 2016, nid oedd ond 16 o nyrsys clefyd llid y coluddyn arbenigol cyfwerth ag amser llawn yn gweithio ledled Cymru. Nid oes ond un nyrs clefyd llid y coluddyn yn fy mwrdd iechyd fy hun, Hywel Dda, ac nid oes ond dwy ohonynt ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ac mae'n rhaid iddynt ymdrin â rhanbarth helaeth. Beth y bwriadwch ei wneud i fynd i'r afael â'r diffyg daearyddol hwn, sy'n arwain yn aml at gleifion yn gorfod teithio y tu allan i'w byrddau iechyd i gael triniaeth?