2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Rwy'n galw'n gyntaf ar lefarydd y Ceidwadwyr, Angela Burns.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yn 2009, cefnogodd Llywodraeth Cymru y safonau cenedlaethol ar gyfer clefyd llid y coluddyn, a oedd yn argymell isafswm o un a hanner nyrs clefyd llid y coluddyn amser llawn, neu gyfwerth ag amser llawn, i bob 250,000 o'r boblogaeth. A allech ddweud wrthyf lle rydych chi arni o ran cyrraedd y targed hwn os gwelwch yn dda?
Rwyf o dan anfantais, ac nid wyf am esgus bod gennyf y ffigurau wrth law.
Wel, yn anad dim arall, rwy'n eich canmol am eich gonestrwydd. Nawr, yn ôl ffigurau a gafwyd gan Crohn's & Colitis UK, yn 2016, nid oedd ond 16 o nyrsys clefyd llid y coluddyn arbenigol cyfwerth ag amser llawn yn gweithio ledled Cymru. Nid oes ond un nyrs clefyd llid y coluddyn yn fy mwrdd iechyd fy hun, Hywel Dda, ac nid oes ond dwy ohonynt ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ac mae'n rhaid iddynt ymdrin â rhanbarth helaeth. Beth y bwriadwch ei wneud i fynd i'r afael â'r diffyg daearyddol hwn, sy'n arwain yn aml at gleifion yn gorfod teithio y tu allan i'w byrddau iechyd i gael triniaeth?
Hoffwn ddod yn ôl at sut y mae gennym y gwasanaeth mwyaf priodol posibl. Siaradais mewn digwyddiad ar lid y coluddyn yn Llundain yn y gorffennol, a drefnwyd gydag amrywiaeth o bobl o ledled y DU i edrych ar yr hyn rydym yn ei wneud, ac rwy'n cydnabod fy mod yn gwybod nad oes gennym y nifer o nyrsys arbenigol y byddem yn dymuno eu cael. Ond mae'n parhau i ymwneud â deall faint o arbenigwyr y gallem, y dylem ac y byddwn yn eu cael, yr hyn y mae hynny'n ei olygu o ran canlyniadau i'r gweithlu mewn mannau eraill, a hyd yn oed os na allwn gael y nifer o nyrsys arbenigol y byddem yn dymuno eu cael yn ddelfrydol, sut rydym yn parhau, serch hynny, i ddarparu'r gofal gorau posibl. Rwy'n fwy na pharod i ymrwymo i gysylltu â'r Aelod yn uniongyrchol mewn perthynas â'r sefyllfa bresennol a pha gynlluniau gwella sydd ar waith o fewn y gwasanaeth yn ogystal.FootnoteLink
Diolch i chi am hynny. Credaf ei fod yn bwysig iawn, oherwydd rydych chi fel Llywodraeth wedi cytuno i fodloni cyfres o safonau, a rai blynyddoedd yn ddiweddarach—gadewch i ni fod yn onest, wyth mlynedd yn ddiweddarach—nid yw'r safonau hynny yn agos at fod wedi'u bodloni. Yn hytrach nag 16 o nyrsys amser llawn, dylai fod gennym 30 o'r nyrsys amser llawn hynny mewn gwirionedd. Mae clefyd llid y coluddyn yn gyfres ofnadwy o gyflyrau. Mae'n fwrn ar bobl, mae'n eu gwneud yn sâl iawn ac maent wedi cael trafferth i wybod sut i ymdopi, oherwydd mae'n amlwg iawn—neu maent yn teimlo ei fod yn amlwg iawn—mae'n creu embaras mawr ac mae'n un o'r clefydau nad oes neb byth yn hoffi siarad amdano. Os gallwn edrych ar sut y gallwn hybu cymorth arbenigol ar gyfer y bobl hynny—un nyrs ar gyfer bob 0.25 miliwn o bobl—nid yw'n ymddangos yn ormod i'w ofyn. Buaswn yn ddiolchgar iawn pe baech yn bwrw golwg drylwyr ar hyn ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni, gan fod 2009—roedd hwnnw'n addewid a wnaed amser maith yn ôl.
Wrth ymateb, os caf, hoffwn edrych nid yn unig ar nyrsys arbenigol, ond yn fwy cyffredinol ar sut rydym yn helpu pobl i reoli eu cyflwr, i ddeall nid yn unig yr ochr sy'n ymwneud â nyrsio, ond amrywiaeth o faterion eraill, er enghraifft, cymorth deiet a roddwn i bobl. Mae'n gyflwr cymharol gyffredin mewn gwirionedd ac mae nifer o bobl yn dioddef ar wahanol adegau yn eu bywydau, gan gynnwys staff yn ein gwasanaeth iechyd a fydd yn ei reoli. Rydych yn iawn: nid oes llawer o bobl eisiau siarad am y peth, gan eu bod yn teimlo stigma ac embaras ynglŷn â'r cyflwr. Felly, mae'n rhywbeth rwy'n ei gydnabod fel problem i'n gwasanaeth a sut rydym yn diwallu anghenion pobl sydd â'r cyflwr yn briodol. Felly, byddaf yn fwy na pharod i gysylltu â chi mewn perthynas â'r gwasanaeth cyfan, lle rydym arni ar hyn o bryd a beth yw ein disgwyliadau a'n dyheadau ar gyfer y dyfodol.
Llefarydd UKIP, Caroline Jones.
Diolch, Lywydd.
Ysgrifennydd y Cabinet, er gwaethaf y ffaith fod ychydig dros 3 miliwn o bobl yn byw yng Nghymru, ymwelwyd â'n hadrannau damweiniau ac achosion brys dros 1 filiwn o weithiau yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae cynnydd o tua dwy ran o dair wedi bod yn nifer y bobl sy'n aros mwy na phedair awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, ac mae'r cyfryngau wedi adrodd bod un meddyg uwch wedi gweld enghreifftiau o bobl yn aros am 80 awr. Yn aml, anawsterau i gael mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol yw'r rheswm dros ymweld ag adrannau damweiniau ac achosion brys. Ysgrifennydd y Cabinet, beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i wella mynediad at feddygon teulu y tu allan i oriau a pha ystyriaeth rydych chi wedi'i rhoi i ddefnyddio technoleg ddigidol i wella mynediad at ofal sylfaenol?
Rwy'n falch fod Caroline Jones wedi cydnabod bod hwn yn fater sy'n ymwneud â'r system gyfan. Nid yw'n ymwneud yn syml â dweud bod angen i adrannau damweiniau ac achosion brys weithio'n gyflymach neu'n fwy effeithlon a'i fod yn fater i'r ysbytai yn unig. Mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â'r llif yr holl ffordd drwy ein system gofal iechyd. Felly, mae'n ymwneud â sut rydym yn atal pobl rhag mynd i'r ysbyty yn ddiangen, pa un a yw'n golygu mynd i uned mân anafiadau neu adran fawr. Mae'n ymwneud â pha un a oes angen i bobl fod yno, â pha mor gyflym y gellir eu gweld, eu trin a'u rhyddhau, neu, os oes angen eu monitro, mae'n ymwneud â bod hynny'n digwydd, ond hefyd y llif drwy'r ysbyty.
O ran ein defnydd o dechnoleg gwybodaeth, wel, mewn gwirionedd rydym newydd lansio A&E Waiting Times Live—cynllun peilot a gynhaliwyd y llynedd yng ngogledd Cymru. Roedd yn arbennig o ddefnyddiol ynglŷn â helpu pobl i hunangyfeirio at y pwynt mwyaf priodol yn y system ac i roi syniad o amseroedd aros tebygol mewn gwahanol fannau. Ond yn fwy na hynny, mae gwaith eisoes ar y gweill i edrych ar sut rydym yn rhagweld anghenion gofal drwy gydol y flwyddyn gyfan—nid yn unig yn ystod y gaeaf—wrth geisio cyfeirio pobl at y gwasanaeth mwyaf priodol. Nid yw'n ymwneud yn unig â'r gwasanaeth gofal sylfaenol y tu allan i oriau; mae'n ymwneud â'r gwasanaeth oriau rheolaidd yn ogystal. Ond mae gennyf hefyd ddiddordeb arbennig yn yr hyn a ddysgwn gan 111, gyda'r peilot cymharol lwyddiannus yn Abertawe Bro Morgannwg a Sir Gaerfyrddin, oherwydd mae hwnnw'n ymwneud yn rhannol â'r gwasanaeth y tu allan i oriau ond hefyd â chyfres ehangach o faterion, ac i'r un graddau, yr her gyson o geisio hysbysu a grymuso'r cyhoedd i wneud penderfyniadau gwahanol ynglŷn â sut i gael gofal a'r lle mwyaf priodol i gael y gofal hwnnw.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mewn ychydig dros 10 diwrnod, bydd y GIG unwaith eto yn profi gwyrth y Nadolig, lle mae'r wardiau'n wag ar noswyl Nadolig ond yn llenwi drachefn ar ddydd San Steffan. Os ydym am osgoi yr hyn a welwyd yn ystod blynyddoedd blaenorol lle roedd ambiwlansys mewn ciw y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys, mae'n rhaid i ni leihau'r galw ar ein system gofal brys dros gyfnod y Nadolig. Ysgrifennydd y Cabinet, sut y gallwn dynnu sylw pellach at yr ymgyrch Dewis Doeth ac annog y cyhoedd i ddefnyddio fferyllfeydd cymunedol ar gyfer mân anhwylderau, a sut y gallwn sicrhau bod byrddau iechyd lleol yn cyhoeddi gwybodaeth ynglŷn ag argaeledd gwasanaethau fferyllol dros gyfnod y Nadolig?
Diolch i chi am y cwestiynau. Unwaith eto, rhan o'r her sy'n ein hwynebu'n rheolaidd yw sut rydym yn lleihau ac yn ailgyfeirio'r galw. Mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo eisoes, ac nid ymgyrch dymhorol Dewis Doeth yn unig. Rhan o hynny eleni yw edrych ar gynllun Fy Iechyd y Gaeaf Hwn ar gyfer pobl sy'n arbennig o agored i niwed ac yn fwy tebygol o ymddangos yn ein hadrannau damweiniau ac achosion brys drwy gydol y gaeaf. Felly, mewn gwirionedd, mae Age Cymru wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol, ac amryw o rai eraill, yn hyrwyddo'r syniad o gael cynllun ar gyfer yr unigolyn a'u gofal ac i ddeall beth yw eu hanghenion gofal. Mae hwnnw eisoes yn boblogaidd yn yr ystyr bod pobl yn deall sut y gallant helpu pobl i ddeall eu hanghenion gofal er mwyn eu cadw yn eu lle arferol, ond os oes angen iddynt fynd i ysbyty i gael gofal, faint yn gynt y gallent ddisgwyl cael eu rhyddhau ac i bobl allu deall y wybodaeth amdanynt.
Rwy'n cydnabod, ac rwy'n falch o dynnu sylw at y gwasanaethau ychwanegol rydym yn eu darparu drwy fferyllfeydd yng Nghymru. Rydym wedi gwneud dewis bwriadol i wario £0.75 miliwn ar ddatblygu'r platfform fferylliaeth Dewis Doeth—nid y cynllun mân anhwylderau yn unig, ond amrywiaeth o rai eraill—a bellach mae dros 60 y cant o fferyllfeydd yng Nghymru yn rhan o'r system Dewis Fferyllfa. Mae byrddau iechyd yn rheolaidd yn darparu gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael mewn fferyllfeydd. Yr her bob amser, mewn môr o wybodaeth i bobl ei dewis a'i deall ac i wneud y penderfyniadau gwahanol hynny ynghylch gwasanaethau, yw na fydd un ymgyrch unigol yn gallu datrys hyn; bydd angen lefel gyson o wybodaeth, a gwybodaeth ar dafod leferydd mewn gwirionedd, wrth i bobl ddefnyddio gwasanaeth yn llwyddiannus eu hunain.
Diolch i chi unwaith eto, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae dewis yn ddoeth yn galw am gael y wybodaeth gywir wrth law. Mae gan Galw Iechyd Cymru a gwasanaeth 111 rôl i'w chwarae yn darparu gwybodaeth o'r fath i gleifion, gan eu helpu i wneud penderfyniadau gwybodus a'u cyfeirio at y gwasanaeth mwyaf priodol. Fy mwrdd iechyd lleol oedd yr ardal beilot ar gyfer y gwasanaeth 111, felly a allech chi roi'r newyddion diweddaraf am y cynllun peilot i ni, Ysgrifennydd y Cabinet, a rhoi amserlen ar gyfer ei gyflwyno'n ehangach ledled Cymru?
Gwneuthum ddatganiad ar y gwasanaeth 111 rai misoedd yn ôl, a nodais y buaswn, drwy gydol y gaeaf, yn disgwyl rhagor ynglŷn â'r gwerthusiad o'r gwasanaeth 111 yn Abertawe Bro Morgannwg a Sir Gaerfyrddin, sydd wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan, ond y byddwn hefyd yn gwneud penderfyniadau drwy gydol y gwanwyn ynglŷn â'i gyflwyno drwy weddill y wlad. Felly, byddaf yn cael gwerthusiad ac rwyf eisoes wedi ymrwymo i ddarparu datganiad cyhoeddus arall a diweddariad i'r Aelodau a'r cyhoedd yn ehangach ar sut a phryd y bydd hynny'n digwydd ac yn wir yr amserlen ar gyfer cyflwyno'r gwasanaeth ledled y wlad.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn i chi. Ysgrifennydd Cabinet, yr wythnos diwethaf, mi wnaethoch chi gyhoeddi datganiad ar gyllido llefydd hyfforddi i weithwyr proffesiynol iechyd dros y flwyddyn nesaf, ac, yn sicr, rwy'n croesawu llawer iawn o'r hyn a ddywedwyd yn y datganiad: yr oedd 10 y cant o gynnydd yn nifer y llefydd hyfforddi nyrsys a ffisiotherapi a therapyddion galwedigaethol, a chynnydd yn nifer y llefydd hyfforddi i ymwelwyr iechyd ac yn y blaen. O ystyried, serch hynny, fod cyllidebau hyfforddiant yn Lloegr wedi cael eu torri, pa strwythurau fydd y Llywodraeth yn eu rhoi mewn lle i sicrhau bod y rhai sy'n cael eu hyfforddi yng Nghymru ar gost Cymru yn aros yng Nghymru?
Diolch i chi am y cwestiwn. Mae hyn yn mynd yn ôl at fwriad polisi'r Llywodraeth hon, fel rwyf wedi'i nodi eisoes, i gynnal bwrsariaeth y GIG. Nid ar gyfer myfyrwyr nyrsio yn unig y mae'r fwrsariaeth; mae ystod o weithwyr iechyd a gofal proffesiynol yn derbyn y fwrsariaeth. Mae parhad y fwrsariaeth mewn cyferbyniad uniongyrchol â Lloegr—penderfynodd Llywodraeth Cymru barhau i ddarparu'r cymorth hwnnw—wedi bod yn arbennig o bwysig i fyfyrwyr aeddfed aros yn y system ar y sail y bydd disgwyliad y bydd pobl wedyn yn gweithio i GIG Cymru am ddwy flynedd ar ôl cwblhau eu hyfforddiant. Credaf fod hwnnw'n setliad teg o ran cael rhywbeth yn ôl. Rydym yn cydnabod bod gan y rhan fwyaf o bobl sy'n dechrau fel myfyrwyr aeddfed gysylltiadau ag ardal leol eisoes, ac felly tra bod eu cymwysterau'n golygu eu bod yn symudol, mae ganddynt eisoes gysylltiadau a fydd yn eu cadw yn eu cymunedau beth bynnag sy'n digwydd. Edrychaf ymlaen at adrodd yn ôl ar lwyddiant ymarferol y fwrsariaeth dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, wrth i bobl gwblhau eu hyfforddiant.
Mae yna rannau eraill o'r cyhoeddiad rwy'n sicr yn cytuno â hwy: cynnal y cynnydd o 40 y cant yn y lleoedd hyfforddi bydwreigiaeth a gafwyd eleni, cynnal buddsoddiad yn y lleoedd hyfforddi ar gyfer rhannau allweddol eraill o'r gweithlu—gofal iechyd, gwyddonwyr, parafeddygon, hylenwyr deintyddol, therapyddion a radiograffwyr—i gyd yn newyddion da iawn. Serch hynny, methais ddod o hyd i'r darn am gynyddu lleoedd astudio meddygaeth israddedig neu leoedd hyfforddi ar gyfer meddygon teulu. A oedd hwnnw'n hepgoriad bwriadol neu'n gamgymeriad?
Na, mae'n deillio'n syml o'r ffaith ein bod yn gwneud y cyhoeddiadau hyn ar adegau gwahanol, fel rwy'n siŵr eich bod wedi sylwi. Byddwn yn gwneud cyhoeddiadau gwahanol am feddygon a lleoedd hyfforddi ym maes meddygon teulu. Rydym newydd gyhoeddi, wrth gwrs, y gyfradd lenwi derfynol ar gyfer y flwyddyn hon—rydym wedi gorlenwi ein lleoedd hyfforddi meddygon teulu mewn gwirionedd. Gyda chreu Addysg a Gwella Iechyd Cymru, bydd gennym system wahanol i ddeall faint o leoedd hyfforddi ar gyfer meddygon a lleoedd iechyd a gofal proffesiynol eraill—. Ar yr adeg briodol o'r flwyddyn, byddwn yn gwneud y cyhoeddiad nesaf ynglŷn â hynny. Ond fe wyddoch wrth gwrs ein bod wedi cyhoeddi cymhelliant arall ym maes meddygon ar gyfer ein seicolegwyr yn 'Hyfforddi, Gweithio, Byw.' Rydym yn cydnabod bod bwlch sylweddol wedi bod ledled y DU—felly help a chymorth ychwanegol a fydd, gobeithio, yn cymell mwy o bobl i gael lleoedd hyfforddiant yma yng Nghymru.
Rwy'n falch eich bod yn trafod meddygon heddiw. Roedd hi'n ymddangos, yn aml iawn yn ddiweddar, eich bod eisiau tynnu fy sylw oddi ar siarad am feddygon i siarad am rannau eraill o'r gwasanaeth iechyd, ond gwyddom fod pob gweithiwr iechyd proffesiynol yn y gwasanaeth iechyd yn ddibynnol ar ei gilydd, ac mae meddygon yn bwysig iawn hefyd.
Fodd bynnag, ni allaf roi gormod o bwyslais ar yr angen i gyflwyno ffigurau pendant a gweledigaeth ynglŷn â faint o feddygon rydym angen eu hyfforddi yng Nghymru dros y blynyddoedd nesaf. Rwyf wedi gweld rhai ffigurau yn ddiweddar a ddylai godi ofn ar bob un ohonom yma, mewn gwirionedd. Roedd y ffigurau a welais yn awgrymu, o'r holl bobl ifanc yng Nghymru sy'n penderfynu eu bod eisiau dilyn gyrfa feddygol, fod 75 y cant ohonynt yn mynd i weithio i'r GIG yn Lloegr yn y pen draw. Nawr, ar wahân i'r ffaith ein bod angen meddygon ac angen i fwy o feddygon o Gymru aros yng Nghymru, yn ogystal â recriwtio o fannau eraill, yn gyffredinol, mae gennym ddraen dawn brawychus yng Nghymru. Mae'r rhain yn bobl ifanc ddisglair y mae angen i ni, am bob math o resymau, eu cadw yn ein cymunedau. Oni wnewch chi gydnabod bod angen penderfyniad cyflym, a phenderfyniad cadarnhaol, mewn perthynas â chynyddu'r cyfleoedd i bobl ifanc astudio meddygaeth yng Nghymru er mwyn i ni geisio mynd i'r afael â'r draen dawn hwnnw?
Nid yw'r Llywodraeth hon erioed wedi ceisio atal pobl ifanc o Gymru rhag cael cyfleoedd i astudio meddygaeth yng Nghymru. Yr her sydd wedi ein hwynebu yw cael rhywbeth yn ôl gyda'n hysgolion meddygol a'n gallu i wneud hynny. Felly, mae gennym eisoes rywfaint o gynnydd yn nifer y myfyrwyr o Gymru sy'n ennill lleoedd yng Nghaerdydd ac Abertawe. Rwyf wedi bod yn glir, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi bod, os ydym am fuddsoddi mwy mewn hyfforddi meddygon yma yng Nghymru, mae angen i ni weld mwy o fudd o ran myfyrwyr sy'n hanu o Gymru. Mae angen i ni hefyd fod yn well, a dweud y gwir, am ddenu pobl ifanc o Gymru sy'n mynd i astudio meddygaeth mewn gwahanol rannau o'r DU. Ni fuaswn yn beirniadu person ifanc o Ynys Môn, Caerdydd, Tyddewi neu'r Drenewydd am benderfynu eu bod eisiau astudio meddygaeth yn Lerpwl, Manceinion, Llundain neu rywle arall. Ein her mewn gwirionedd yw sut rydym yn perswadio'r bobl hynny i ddod yn ôl i Gymru i weithio yn y gwasanaeth iechyd gwladol yn y tymor hwy.
Mewn gwirionedd, rydym yn gweld rhywfaint lwyddiant o ran bod mwy o bobl, yn arbennig gyda 'Hyfforddi, Gweithio, Byw', yn dewis dychwelyd i Gymru ar ôl treulio rhywfaint o'u gyrfa yn Lloegr. Felly, fel erioed, nid oes un ateb syml. Mae yna amrywiaeth o wahanol bethau y mae angen i ni eu cael yn iawn er mwyn sicrhau bod cynifer o fyfyrwyr â phosibl o Gymru yn ymgymryd ag addysg a hyfforddiant meddygol yma yng Nghymru, yn ogystal â denu pobl o Gymru sydd wedi ymgymryd â'u haddysg a'u hyfforddiant meddygol mewn rhannau eraill o'r DU yn benodol.