Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 13 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:40, 13 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mewn ychydig dros 10 diwrnod, bydd y GIG unwaith eto yn profi gwyrth y Nadolig, lle mae'r wardiau'n wag ar noswyl Nadolig ond yn llenwi drachefn ar ddydd San Steffan. Os ydym am osgoi yr hyn a welwyd yn ystod blynyddoedd blaenorol lle roedd ambiwlansys mewn ciw y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys, mae'n rhaid i ni leihau'r galw ar ein system gofal brys dros gyfnod y Nadolig. Ysgrifennydd y Cabinet, sut y gallwn dynnu sylw pellach at yr ymgyrch Dewis Doeth ac annog y cyhoedd i ddefnyddio fferyllfeydd cymunedol ar gyfer mân anhwylderau, a sut y gallwn sicrhau bod byrddau iechyd lleol yn cyhoeddi gwybodaeth ynglŷn ag argaeledd gwasanaethau fferyllol dros gyfnod y Nadolig?