Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Mae yna rannau eraill o'r cyhoeddiad rwy'n sicr yn cytuno â hwy: cynnal y cynnydd o 40 y cant yn y lleoedd hyfforddi bydwreigiaeth a gafwyd eleni, cynnal buddsoddiad yn y lleoedd hyfforddi ar gyfer rhannau allweddol eraill o'r gweithlu—gofal iechyd, gwyddonwyr, parafeddygon, hylenwyr deintyddol, therapyddion a radiograffwyr—i gyd yn newyddion da iawn. Serch hynny, methais ddod o hyd i'r darn am gynyddu lleoedd astudio meddygaeth israddedig neu leoedd hyfforddi ar gyfer meddygon teulu. A oedd hwnnw'n hepgoriad bwriadol neu'n gamgymeriad?