Mewnblaniadau Rhwyll

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 13 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 2:32, 13 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi codi mater rhwyll y pelfis yn GIG Cymru yn y Siambr hon o'r blaen. Cafodd y mater ei ddwyn i fy sylw gan un o fy etholwyr a siaradodd gyda mi ynglŷn â'i phrofiad torcalonnus. Ac mae fy etholwr ymysg miloedd o fenywod eraill ledled y DU sy'n wynebu amgylchiadau sy'n newid bywydau. Nawr, mae'r mater hwn yn cael cyhoeddusrwydd cynyddol, a chafwyd rhaglen Panorama ar y teledu yn gynharach yr wythnos hon a oedd yn tynnu sylw at y dioddefaint a achoswyd gan y mewnblaniadau hyn. Ac roedd yr ymchwiliad hefyd yn awgrymu nad oedd meddygon yn ymwybodol o beryglon mewnblaniadau rhwyll.

Fe sonioch chi am waith y grŵp gorchwyl a gorffen, ac edrychaf ymlaen, fel yr Aelodau eraill, at glywed am y cynnydd a wneir ganddo. Ond pa sicrwydd y gallwch ei roi i mi, ac i fy etholwr, er mwyn sicrhau na fydd menywod fel hi'n gorfod dioddef profiadau trawmatig tebyg oherwydd rhwyll yn y dyfodol?