Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae cynnydd aruthrol wedi bod yn y 12 mis diwethaf ar leihau nifer y plant a phobl ifanc sy'n aros am apwyntiad CAMHS. Rwy'n croesawu'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar y mater hwn. O ganlyniad i'r buddsoddiad ychwanegol, rydym wedi torri dros ddwy ran o dair oddi ar y nifer sy'n aros am driniaeth. Fodd bynnag, mae gennym dros 500 o blant a phobl ifanc sy'n aros rhwng pedair a 26 wythnos o hyd, ac mae llond llaw ohonynt yn aros yn hwy na hynny. Ysgrifennydd y Cabinet, o gofio y dylai plant a phobl ifanc gael eu gweld o fewn 28 diwrnod, beth arall y gall eich Llywodraeth ei wneud i sicrhau nad oes yn rhaid i unrhyw berson ifanc aros hyd at hanner blwyddyn?