2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 13 Rhagfyr 2017.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed? OAQ51479
Rydym wedi buddsoddi £8 miliwn ychwanegol y flwyddyn i gefnogi rhaglen sylweddol o waith i wella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed arbenigol mewn ymateb i'r cynnydd sylweddol yn nifer yr atgyfeiriadau dros y blynyddoedd diwethaf. Mae pob bwrdd iechyd lleol yn gweithio tuag at gyrraedd y targed 28 diwrnod yn gyson.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae cynnydd aruthrol wedi bod yn y 12 mis diwethaf ar leihau nifer y plant a phobl ifanc sy'n aros am apwyntiad CAMHS. Rwy'n croesawu'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar y mater hwn. O ganlyniad i'r buddsoddiad ychwanegol, rydym wedi torri dros ddwy ran o dair oddi ar y nifer sy'n aros am driniaeth. Fodd bynnag, mae gennym dros 500 o blant a phobl ifanc sy'n aros rhwng pedair a 26 wythnos o hyd, ac mae llond llaw ohonynt yn aros yn hwy na hynny. Ysgrifennydd y Cabinet, o gofio y dylai plant a phobl ifanc gael eu gweld o fewn 28 diwrnod, beth arall y gall eich Llywodraeth ei wneud i sicrhau nad oes yn rhaid i unrhyw berson ifanc aros hyd at hanner blwyddyn?
Diolch i chi am y cwestiwn. Croesawaf y ffaith eich bod wedi cydnabod y cynnydd sylweddol sydd wedi cael ei wneud, ond rwyf hefyd yn cydnabod bod llawer i'w wneud eto. Cafwyd cryn dipyn o welliant i gyrraedd y targed 28 diwrnod ledled Cymru ym mis Mawrth eleni. Ers hynny, rydym wedi gweld cyflawniad yn llithro'n ôl, a bellach mae gennym rai pobl yn aros yn rhy hir unwaith eto. Mewn gwirionedd, rydym wedi gweld fod yr amser aros cyfartalog o dan wyth wythnos. O gofio bod pobl yn aros dros chwe mis yn rheolaidd ychydig o flynyddoedd yn ôl, mae hwnnw'n gam arwyddocaol ymlaen.
Rwyf wedi ei gwneud yn glir i fyrddau iechyd, ar lefel cadeirydd ac is-gadeirydd, fy mod yn disgwyl wynebu craffu parhaus, ac mae hynny'n briodol, hyd nes y gwelwn welliant sylweddol yn cael ei gynnal, ond hefyd gallant ddisgwyl y byddaf yn ei ddwyn i'w sylw mewn fforymau atebolrwydd hyd nes y byddant yn cyflawni'r targed o 80 y cant o bobl yn cael eu gweld o fewn 28 diwrnod, a'u bod yn gallu cynnal y cyflawniad hwnnw hefyd mewn gwirionedd. Rydym wedi buddsoddi yn y staff y dywedasant y byddent eu hangen, ac rydym wedi buddsoddi £300,000 o arian ychwanegol i wneud yn siŵr ein bod yn ymdrin â'r ôl-groniad sy'n bodoli yn ystod y flwyddyn hon. Rwy'n llawn ddisgwyl, drwy gydol y flwyddyn nesaf, y bydd ein cyflawniad yn fwy cyson a chynaliadwy i wneud yn siŵr nad yw pobl yn aros yn rhy hir, naill ai am apwyntiadau CAMHS arbenigol neu i gael eu hatgyfeirio at rannau eraill o'n system iechyd a gofal os nad CAMHS yw'r lle priodol i ddiwallu eu hanghenion iechyd a gofal.
Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi ofyn i chi pa sicrwydd y gallwch ei roi y bydd dyraniad y gyllideb ar gyfer CAMHS yn cael ei glustnodi?
Rydym wedi bod yn glir iawn wrth fuddsoddi'r adnoddau ychwanegol ar gyfer CAMHS. Mae gennym yr arian rydym wedi'i glustnodi ym meysydd iechyd meddwl yn gyffredinol, ac mewn gwirionedd, gwyddom ein bod yn gwario mwy na'r arian a glustnodir ym maes iechyd meddwl ac ar wasanaethau CAMHS. Mae rhan o'r her yn ymwneud â gweld CAMHS fel rhan o system gyfan, oherwydd gwyddom mai rhan o'r her yw'r ffaith bod mwy o bobl yn cael eu hatgyfeirio, ac rydym yn dal i wynebu her sylweddol atgyfeirio amhriodol. Felly, yn ogystal â sicrhau buddsoddiad cywir yn CAMHS, ac rwy'n credu ein bod wedi gwneud hynny, mae gennym hefyd y buddsoddiad mewn gwasanaethau eraill lle mae gan bobl anghenion cymorth iechyd a gofal gwirioneddol. Rwy'n hyderus ein bod wedi gwneud y buddsoddiad cywir ac rwy'n hyderus fod yr arian hwnnw'n cael ei wario ar CAMHS fel roeddem wedi'i fwriadu, ac rwy'n llawn ddisgwyl y byddwn yn adrodd yn ôl ar y gwelliant. Os na fyddwn, byddaf yn wynebu eich cwestiynau, ac eraill, ynglŷn â pham nad oes gwelliant sylweddol wedi cael ei wneud a'i gynnal.
Rwyf wedi bod yn tynnu sylw at restrau aros CAMHS ers peth amser. Yn ddiweddar, ysgrifennodd y Prif Weinidog ataf yn esbonio'r rhesymau wrth wraidd y newidiadau yn y ffordd y câi'r rhestrau aros hyn eu mesur a'u cyhoeddi, gan egluro bod rhai byrddau iechyd lleol yn mynd ati'n amhriodol i gynnwys atgyfeiriadau plant a phobl ifanc at wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol yn eu cyflwyniadau data CAMHS arbenigol, ac mae gan wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol hefyd darged o 28 diwrnod ar gyfer asesiadau ac ymyriadau, ond caiff hyn ei gofnodi a'i fesur ar wahân. Fodd bynnag, nid yw hyn yn hollol gywir—nid oes modd dadansoddi'r data a gyhoeddwyd ar gyfer y gwasanaeth hwn yn ôl grŵp oedran. Mae hyn yn golygu nad oes gennym syniad faint o amser y mae plant yn aros am y gwasanaethau hyn. A oes gennych unrhyw gynlluniau i gyhoeddi'r data hwn er mwyn caniatáu mwy o graffu ar berfformiad y Llywodraeth hon mewn perthynas ag iechyd meddwl plant a phobl ifanc?
Rydym yn disgwyl gallu rhyddhau data cywir sydd wedi bod drwy'r broses graffu briodol fel ystadegau swyddogol, fel y gall pobl weld yn dryloyw pa un a yw'r gwasanaeth iechyd yn bodloni'r 80 y cant o blant a phobl ifanc sy'n cael eu gweld mewn gwasanaethau CAMHS o fewn 28 diwrnod. Ni allaf fod yn gliriach ynglŷn â fy nisgwyliadau nac ynglŷn â thryloywder y wybodaeth y bydd y cyhoedd a'r Aelodau yn ei chael.