Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Mae'r arian ar gyfer darparu ystâd gofal iechyd sylfaenol llawer mwy priodol yn cael ei werthfawrogi'n fawr, ond rwyf eisiau canolbwyntio fy nghwestiwn heddiw ar ddarparu gwasanaethau. Roedd gennyf ddiddordeb arbennig mewn darllen adroddiad gan Gronfa'r Brenin ar lwyddiant Canterbury yn Seland Newydd yn cyfyngu ar y cynnydd yn y galw am wasanaethau brys oherwydd y buddsoddiad mewn gwasanaethau gofal sylfaenol. Roedd hyn yn cynnwys cael timau integredig, ac roedd pob un ohonynt yn cael eu gwerthfawrogi. Roedd yn cynnwys llawer gwell—llawer mwy o wasanaethau gofal sylfaenol, gan gynnwys gwasanaethau meddygon teulu 24 awr, gan gynnwys gwelyau arsylwi i sicrhau nad oedd pobl yn cael eu derbyn i'r ysbyty yn amhriodol oherwydd nad oedd pobl yn siŵr a oeddent yn ddifrifol wael ai peidio, a gwasanaeth atal cwympiadau wedi'i dargedu, un o'r prif achosion pam fod pobl hŷn yn cael eu derbyn i'r ysbyty ar gyfer triniaeth frys, fel y gwyddom. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a ydych yn meddwl am wasanaeth Canterbury, Seland Newydd a'r modd y gallai ddylanwadu ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, oherwydd gwn fod Caerdydd a'r Fro yn edrych yn agos iawn ar hyn. A ydych yn credu bod hwn yn rhywbeth y dylai pob bwrdd iechyd edrych arno fel model ar gyfer gofal yn y dyfodol neu a ydych yn credu bod hwn yn rhywbeth penodol iawn i Gaerdydd a'r Fro?