2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 13 Rhagfyr 2017.
7. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog symud adnoddau o ofal eilaidd i ofal iechyd sylfaenol? OAQ51452
Diolch i chi am y cwestiwn. Rwyf newydd gyhoeddi cynlluniau yn ddiweddar i ddarparu 19 o ganolfannau iechyd a gofal integredig newydd ar draws Cymru erbyn 2021, i helpu i ddarparu gofal yn agosach at gartrefi pobl yn eu cymunedau. Rwyf wedi nodi hyd at £68 miliwn ar gyfer y canolfannau. Bydd gwaith adeiladu yn amodol ar gytuno achos busnes llwyddiannus. Y disgwyliad yw y bydd y cynlluniau hynny'n cael eu cyflwyno erbyn 2021 i wneud yn siŵr fod yr ystâd yn addas at y diben i ddarparu system iechyd a gofal integredig newydd.
Mae'r arian ar gyfer darparu ystâd gofal iechyd sylfaenol llawer mwy priodol yn cael ei werthfawrogi'n fawr, ond rwyf eisiau canolbwyntio fy nghwestiwn heddiw ar ddarparu gwasanaethau. Roedd gennyf ddiddordeb arbennig mewn darllen adroddiad gan Gronfa'r Brenin ar lwyddiant Canterbury yn Seland Newydd yn cyfyngu ar y cynnydd yn y galw am wasanaethau brys oherwydd y buddsoddiad mewn gwasanaethau gofal sylfaenol. Roedd hyn yn cynnwys cael timau integredig, ac roedd pob un ohonynt yn cael eu gwerthfawrogi. Roedd yn cynnwys llawer gwell—llawer mwy o wasanaethau gofal sylfaenol, gan gynnwys gwasanaethau meddygon teulu 24 awr, gan gynnwys gwelyau arsylwi i sicrhau nad oedd pobl yn cael eu derbyn i'r ysbyty yn amhriodol oherwydd nad oedd pobl yn siŵr a oeddent yn ddifrifol wael ai peidio, a gwasanaeth atal cwympiadau wedi'i dargedu, un o'r prif achosion pam fod pobl hŷn yn cael eu derbyn i'r ysbyty ar gyfer triniaeth frys, fel y gwyddom. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a ydych yn meddwl am wasanaeth Canterbury, Seland Newydd a'r modd y gallai ddylanwadu ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, oherwydd gwn fod Caerdydd a'r Fro yn edrych yn agos iawn ar hyn. A ydych yn credu bod hwn yn rhywbeth y dylai pob bwrdd iechyd edrych arno fel model ar gyfer gofal yn y dyfodol neu a ydych yn credu bod hwn yn rhywbeth penodol iawn i Gaerdydd a'r Fro?
Na, nid wyf yn credu ei fod yn rhywbeth penodol i Gaerdydd a'r Fro. Credaf fod amrywiaeth o elfennau, yn y DU ac yn rhyngwladol, ynghlwm wrth y gofyniad i symud hyd yn oed yn fwy tuag at system a arweinir gan ofal sylfaenol, a symud nid yn unig o wasanaethau wedi'u lleoli mewn ysbytai at wasanaethau wedi'u lleoli yn y gymuned, ond mewn gwirionedd, symud adnoddau'n briodol er mwyn galluogi hynny i ddigwydd hefyd. Rydym wedi gweld rhywfaint o hynny'n digwydd eisoes yng Nghymru—ac mae cardioleg gymunedol yn enghraifft dda. Yr hyn rwy'n ei ystyried yn addysgiadol am Canterbury yw ei fod wedi cymryd penderfyniad a chysondeb. Mae'r hyn y mae Canterbury wedi'i gyflawni wedi digwydd dros ddegawd, ac mae yna rywbeth yno am yr her i bob un ohonom fel llunwyr polisi a gwneuthurwyr penderfyniadau, rhai sy'n craffu ac aelodau o'r Llywodraeth, sef bod deall yr her yn llawer haws na deall yr ateb, ac mewn gwirionedd, mae sut y cyrhaeddwn y pwynt hwnnw yn aml yn cymryd amser. Felly, mae'r ddegawd y mae Canterbury wedi'i gymryd—. Rydym eisoes wedi gwneud camau yng Nghymru, nid yn unig gyda fy rhagflaenydd uniongyrchol yn yr ystafell ond Gweinidogion iechyd eraill wrth geisio symud adnoddau i ofal sylfaenol a chael ffocws llawer gwell ar geisio troi cefn ar y syniad mai ysbytai'n unig yw'r gwasanaeth iechyd.
Dyna'r llwybr rydym wedi'i osod i ni'n hunain. Dyna pam rwyf wedi gwneud yn siŵr fod gofal sylfaenol yn cael sylw cenedlaethol. Dyna pam ein bod wedi cynnal cynhadledd genedlaethol ar ofal sylfaenol. Ond mae'n dweud rhywbeth am yr amser y mae Gweinidogion yn barod i'w dreulio yn cyfarwyddo'r gwasanaeth a dweud, 'Dyma'r cyfeiriad y mae'n rhaid i ni ei ddilyn er mwyn cael mwy o ofal yn nes at adref', ac rwy'n llawn ddisgwyl y bydd yr arolwg seneddol, pan fydd yn cael ei gyhoeddi yn gynnar yn y flwyddyn newydd, yn dweud mwy am gael gwasanaeth a arweinir gan ofal sylfaenol ac mai integreiddio ar y lefel leol iawn honno yw'r llwybr sy'n rhaid inni ei ddilyn os ydym am wneud rhywbeth ynglŷn â datrys ein heriau iechyd cyhoeddus a hefyd os ydym am ddarparu gofal o'r ansawdd cywir ym mhob un o'n cymunedau ledled y wlad.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.