Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Wel, mae Llywodraeth Cymru, fel y byddwch yn gwybod yn iawn, wedi ymrwymo i fynd ar drywydd pob llwybr er mwyn creu ac adeiladu cartrefi, a chartrefi fforddiadwy yn enwedig, gyda'n targed o 20,000 dros dymor y Cynulliad hwn, ond hefyd cartrefi i'w gwerthu yn y farchnad yn ogystal. Rydym yn gwneud hynny mewn nifer o ffyrdd. Rydym yn cydnabod y rôl bwysig y bydd y sector busnesau bach a chanolig yn ei chwarae o ran cyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer y sector tai, felly yn ddiweddar rydym wedi cyhoeddi £30 miliwn ychwanegol ar gyfer cronfa datblygu eiddo Cymru, a bydd hwnnw'n cynorthwyo datblygwyr bach a chanolig i adeiladu cartrefi, a gwyddom fod y sector hwnnw wedi cael ergyd arbennig o wael yn sgil y dirwasgiad. Mae hynny mewn gwirionedd yn golygu pedair gwaith y buddsoddiad cychwynnol yn y sector penodol hwnnw ac mae disgwyl y bydd yn darparu dros £270 miliwn o gymorth ar gyfer y sector dros y 15 mlynedd nesaf.
Mae hynny yn ychwanegol at ein hymrwymiad i wario £1.4 biliwn ar dai yn ystod y Cynulliad hwn, felly nid oes unrhyw amheuaeth fod Llywodraeth Cymru yn sicr yn rhoi ei hadnoddau ariannol y tu ôl i hyn ac yn gweithio gyda'r holl sectorau er mwyn adeiladu cartrefi, dysgu o'r hyn a wnaethom yn y Cynulliad blaenorol o ran y cytundeb cyflenwad tai a oedd gennym gyda Cartrefi Cymunedol Cymru. Bu hwnnw o gymorth i ni gyflawni ein targed o ddarparu 10,000 o gartrefi fforddiadwy. Mae gennym gytundeb yn awr gyda Cartrefi Cymunedol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ond hefyd mae gennym gytundeb gyda'r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi a Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr yn ogystal, felly rydym yn gyson yn ceisio archwilio sut y gallwn weithio gyda phartneriaid newydd i gynyddu nifer y tai a gaiff eu hadeiladu ledled Cymru.