3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 13 Rhagfyr 2017.
1. O ystyried y ffigurau ar gyfer nifer y tai newydd a gaiff eu hadeiladu yng Nghymru a ryddhawyd yn ddiweddar, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau pam mae nifer y cartrefi newydd a gaiff eu hadeiladu yng Nghymru bob blwyddyn yn lleihau? 87
Mae gennym duedd gadarnhaol hirdymor mewn perthynas ag adeiladu tai yng Nghymru, a'r realiti yw bod nifer yr anheddau newydd y dechreuwyd eu hadeiladu yng Nghymru wedi cynyddu 2 y cant yn 2016-17, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, a dyma'r ail nifer flynyddol uchaf a gofnodwyd ers dechrau'r dirwasgiad yn 2007.
O'r mawredd. [Chwerthin.] Weinidog, gadewch i ni atgoffa ein hunain, ar gyfer y flwyddyn ddiweddaraf, sef hyd at fis Medi 2017, sydd newydd fod, mai'r ffigur yw 6,830. Mae hwnnw'n ostyngiad ers y flwyddyn flaenorol, a oedd yn 6,900. Ond gadewch i mi atgoffa pawb yma: eich targed yw 8,700—8,700. Rydych bron â bod 2,000 yn is na hynny, ac mae 10 mlynedd wedi bod ers i'r Llywodraeth hon gyflawni ei tharged ar gyfer cartrefi newydd. Nid yw'n dderbyniol o gwbl. Mae gennych adroddiad Holmans, ac mae wedi gan y Llywodraeth ers nifer o flynyddoedd, sef un o'r adroddiadau mwyaf awdurdodol a gynhyrchwyd erioed ar yr angen am dai, a oedd yn dweud y dylai'r Llywodraeth hon ystyried mabwysiadu'r amcanestyniad amgen a gyfrifwyd gan yr Athro Holmans, sef 12,000 o gartrefi y flwyddyn yng Nghymru rhwng nawr a 2030—nid 8,700, ac rydych yn methu'n llwyr â chyrraedd y nod hwnnw beth bynnag, ond 12,000. Onid ydych yn cytuno ei bod hi'n hen bryd i Lywodraeth Cymru dderbyn yr amcanestyniad amgen, o leiaf, fel y gallwn ddechrau gwneud cynnydd mewn perthynas â'r argyfwng tai?
Wel, mae Llywodraeth Cymru, fel y byddwch yn gwybod yn iawn, wedi ymrwymo i fynd ar drywydd pob llwybr er mwyn creu ac adeiladu cartrefi, a chartrefi fforddiadwy yn enwedig, gyda'n targed o 20,000 dros dymor y Cynulliad hwn, ond hefyd cartrefi i'w gwerthu yn y farchnad yn ogystal. Rydym yn gwneud hynny mewn nifer o ffyrdd. Rydym yn cydnabod y rôl bwysig y bydd y sector busnesau bach a chanolig yn ei chwarae o ran cyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer y sector tai, felly yn ddiweddar rydym wedi cyhoeddi £30 miliwn ychwanegol ar gyfer cronfa datblygu eiddo Cymru, a bydd hwnnw'n cynorthwyo datblygwyr bach a chanolig i adeiladu cartrefi, a gwyddom fod y sector hwnnw wedi cael ergyd arbennig o wael yn sgil y dirwasgiad. Mae hynny mewn gwirionedd yn golygu pedair gwaith y buddsoddiad cychwynnol yn y sector penodol hwnnw ac mae disgwyl y bydd yn darparu dros £270 miliwn o gymorth ar gyfer y sector dros y 15 mlynedd nesaf.
Mae hynny yn ychwanegol at ein hymrwymiad i wario £1.4 biliwn ar dai yn ystod y Cynulliad hwn, felly nid oes unrhyw amheuaeth fod Llywodraeth Cymru yn sicr yn rhoi ei hadnoddau ariannol y tu ôl i hyn ac yn gweithio gyda'r holl sectorau er mwyn adeiladu cartrefi, dysgu o'r hyn a wnaethom yn y Cynulliad blaenorol o ran y cytundeb cyflenwad tai a oedd gennym gyda Cartrefi Cymunedol Cymru. Bu hwnnw o gymorth i ni gyflawni ein targed o ddarparu 10,000 o gartrefi fforddiadwy. Mae gennym gytundeb yn awr gyda Cartrefi Cymunedol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ond hefyd mae gennym gytundeb gyda'r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi a Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr yn ogystal, felly rydym yn gyson yn ceisio archwilio sut y gallwn weithio gyda phartneriaid newydd i gynyddu nifer y tai a gaiff eu hadeiladu ledled Cymru.
Diolch i'r Gweinidog. Y cwestiwn nesaf—Simon Thomas.