Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Mae newidiadau diweddar Llywodraeth y Deyrnas Unedig i dreth dir y dreth stamp wedi arwain at gyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru. Mae hyn wedi caniatáu i mi wneud rhai newidiadau a fydd yn golygu bod tua 90 y cant o’r rhai sy’n prynu cartrefi yng Nghymru yn talu naill ai'r un faint neu lai o dreth na’r hyn y byddai wedi digwydd o dan dreth dir y dreth stamp.