3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 13 Rhagfyr 2017.
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynglŷn â'r rhesymau y bydd trothwy cychwynnol y dreth trafodiadau tir yn codi ar gyfer prif gyfraddau preswyl pan gaiff y dreth ei datganoli ym mis Ebrill 2018? 92
Mae newidiadau diweddar Llywodraeth y Deyrnas Unedig i dreth dir y dreth stamp wedi arwain at gyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru. Mae hyn wedi caniatáu i mi wneud rhai newidiadau a fydd yn golygu bod tua 90 y cant o’r rhai sy’n prynu cartrefi yng Nghymru yn talu naill ai'r un faint neu lai o dreth na’r hyn y byddai wedi digwydd o dan dreth dir y dreth stamp.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ateb. Rwy'n gwerthfawrogi'r ffaith ei fod ef wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig dydd Llun ynglŷn â'r materion hyn, ond rydw i'n credu, wrth i ni edrych ar drethi sydd wedi'u datganoli i'r Cynulliad am y tro cyntaf, mae'n briodol ein bod ni'n cael cyfle cyn y Nadolig i rannu'r newyddion da neu ddrwg gyda phreswylwyr trwy Gymru ben baladr. Diolch am gadarnhau bod 90 y cant o brynwyr tro cyntaf, felly, heb gael eu heffeithio, neu, os ydynt yn cael eu heffeithio, maen nhw'n cael eu heffeithio mewn ffordd gadarnhaol gan y newid yma.
Os caf i ofyn i chi jest ddau gwestiwn penodol: a ydych chi wedi cael cyfle i wneud proffil o'r arian a fydd yn cael ei gasglu gan Lywodraeth Cymru oherwydd y newidiadau yma, ac a ydych chi, felly, o'r farn, pan fyddem ni'n dod i bleidleisio ar y gyllideb derfynol yn y flwyddyn newydd, na fydd angen newid dim byd yn y gyllideb honno? A ydych chi hefyd wedi manteisio ar y cyfle i fodelu effaith y newid yma ar brisoedd tai yng Nghymru? Byddwch chi'n cofio bod y Swyddfa ar gyfer Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi dweud bod cyflwyno'r rhyddhad yma ar gyfer prynwyr tro cyntaf yn codi prisoedd tai dros y Deyrnas Gyfunol, neu, yn hytrach, dros Gymru a Lloegr, ac rwy'n credu yr oedden nhw'n awgrymu hyd at 1 y cant o godiad mewn pris tai, sydd, wrth gwrs, yn gwneud tai hyd yn oed yn bellach i ffwrdd o rai prynwyr tro cyntaf. Gan nad ŷch chi'n gwneud hynny fan hyn, a ydych chi'n gallu modelu hynny ac effaith hynny ar brisoedd tai yng Nghymru ac a fydd yna adroddiad gan Brifysgol Bangor yn edrych ar hyn i ddiweddaru'r sefyllfa erbyn i ni bleidleisio ar y gyllideb?
Wel, diolch i Simon Thomas am y ddau gwestiwn ychwanegol hynny.
Lywydd, hoffwn ddweud y bydd y rhagdybiaethau sylfaenol sydd wrth wraidd y penderfyniadau rydym yn eu gwneud mewn perthynas â threthi datganoledig yn destun craffu annibynnol gan Brifysgol Bangor yn y ffordd a awgrymodd Simon Thomas. Rwyf wedi ymrwymo. Dywedais wrth y Pwyllgor Cyllid y buaswn yn gwneud fy ngorau i sicrhau y byddwn, ochr yn ochr â'r gyllideb derfynol ar 19 Rhagfyr, yn cyflwyno asesiadau diweddaredig Bangor, sy'n ystyried y newidiadau a wnaethom, a byddant yn profi'r rhagdybiaethau hynny fel bod Aelodau'r Cynulliad yn gweld y rhagdybiaethau a wnaethom a'u hystyriaeth annibynnol ohonynt.
Mae Simon Thomas yn gywir, wrth gwrs, i gyfeirio at yr hyn a ddywedodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ynglŷn â phenderfyniad y Canghellor i godi'r trothwy cychwynnol ar gyfer treth dir y dreth stamp i brynwyr tro cyntaf yn Lloegr ar brisiau yn y farchnad. Mae yna dystiolaeth flaenorol, pan gafwyd cyfradd flaenorol ar gyfer prynwyr tro cyntaf, nad arweiniodd at filiau is i brynwyr ond yn hytrach at brisiau uwch i werthwyr. Byddwn yn cadw golwg ofalus ar hynny yma yng Nghymru. Mae fy mhenderfyniad i godi'r trothwy cychwynnol i unrhyw un sy'n prynu cartref yng Nghymru gwerth £180,000 neu lai o leiaf yn gwarantu nad yw pobl eraill y tu hwnt i brynwyr tro cyntaf yn cael eu cosbi ddwywaith—hynny yw yn sgil y ffaith nad oes rhyddhad ar gael iddynt ond eu bod yn gorfod talu'r prisiau uwch y gallai gwerthwyr ofyn amdanynt.
Hoffem ni, ar y meinciau hyn, groesawu'r cynnydd yn y swm di-dreth hyd at £180,000. Yn yr un modd, a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn croesawu'r toriad treth a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU a sicrhaodd fod yr arian hwn ar gael iddo? A wnaiff ystyried a yw datganiad ysgrifenedig yn ddigon mewn gwirionedd i gyhoeddi newidiadau yn y cyfraddau treth, wrth iddo ystyried y gweithdrefnau ariannol sy'n esblygu yn y Cynulliad hwn?
A gaf fi hefyd ofyn a yw mewn cystadleuaeth dreth â Lloegr bellach? Credaf y gallai'r cynnydd hwn i £180,000 liniaru'r risg y bydd prynwyr tro cyntaf yn ystyried prynu dros y ffin o bosibl, ond mewn gwirionedd mae pobl sy'n prynu am yr ail dro neu fwy na hynny—a yw'n credu y bydd y gostyngiad o hyd at £1,100 ar gartref gwerth £180,000 yn ddigon i annog pobl i ddod i brynu yng Nghymru? Ac a yw hynny'n rhywbeth y byddai'n ei groesawu?
A allai egluro hefyd: a yw hwn yn ddatganiad mawreddog o wleidyddiaeth flaengar, yr hyn y mae'n ei wneud gyda'r dreth trafodion tir, neu a yw ond yn gyfliniad synhwyrol o'r cyfraddau treth ar lefel prisiau tai sy'n gyffredin yng Nghymru?
Yn olaf, yr wythnos diwethaf, dywedodd y byddai'r gyfradd fasnachol o 6 y cant yn arwain at godi ychydig o filoedd yn unig. Ar sail data gwahanol a gawsom gan ei adran, rydym yn cyfrifo y bydd yn £2.7 miliwn y flwyddyn fan lleiaf. A allai edrych eto ar ei gyfrifiadau, ac a allai barhau i adolygu'r gyfradd honno o 6 y cant o ystyried ei heffaith ar ddatblygu ledled Cymru?
Wel, Lywydd, gwneuthum benderfyniad ymwybodol i ddefnyddio'r arian sydd ar gael i Gymru o ganlyniad i benderfyniad Canghellor y Trysorlys mewn perthynas â phrynwyr tro cyntaf yn Lloegr. Gwneuthum benderfyniad ymwybodol i ddefnyddio'r arian hwnnw at yr un diben fwy neu lai yma yng Nghymru. Bydd yr Aelod yn ymwybodol iawn o'r anhwylustod rydym yn ei wynebu gyda'n cyllideb ddrafft yn cael ei gosod ar ddechrau mis Hydref ac yna digwyddiad mawr ar lefel y DU hanner ffordd drwyddi. Fy uchelgais oedd gallu cyflwyno gwybodaeth gerbron y Cynulliad mor gynnar ag y gallwn. Datganiad ysgrifenedig oedd y ffordd ymarferol o wneud hynny. Ni fydd y rheoliadau a fydd yn rhoi hyn i gyd mewn grym yn ymddangos gerbron y Cynulliad hwn tan y flwyddyn newydd, a bydd cyfle llawn i'r Aelodau graffu ar y rheoliadau bryd hynny.
Rwy'n gwrthod y syniad ein bod yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth dreth yn llwyr. Yr hyn y mae datganoli treth trafodion tir i Gymru yn ei wneud yw caniatáu i ni gynllunio'r dreth hon mewn ffordd sy'n adlewyrchu anghenion Cymru. Deallaf fod Canghellor y Trysorlys, pan oedd yn rhaid iddo wneud penderfyniad ar sail Cymru a Lloegr, yn gorfod ystyried prisiau tai yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr yn ogystal â phrisiau tai ym Merthyr a Blaenau Gwent, yma yng Nghymru. Mae'n rhaid iddo fabwysiadu dull bras iawn felly lle nad yw rhai o'r ffigurau hynny'n berthnasol i'n hamgylchiadau. Mae cael y dreth yn ein dwylo ni yma yng Nghymru yn golygu fy mod wedi gallu gosod trothwyon sy'n adlewyrchu prisiau tai yma yng Nghymru. Ni fydd 80 y cant o brynwyr tro cyntaf yn Lloegr yn talu unrhyw dreth o gwbl o ganlyniad i benderfyniad y Canghellor. Ni fydd 80 y cant o brynwyr tro cyntaf yng Nghymru yn talu unrhyw dreth o ganlyniad i'r trothwy a osodais yma yng Nghymru.
Nid yw'r penderfyniadau rwyf wedi'u gwneud yn rhan o ddatganiad mawreddog, Lywydd. Maent yn rhan o gyhoeddiad wedi'i lunio'n ofalus lle rwyf wedi ceisio glynu wrth yr ymrwymiadau a roesom y byddwn yn dechrau ar daith y trethi datganoledig mewn modd gofalus sy'n canolbwyntio ar wneud gwaith cymwys, ac sy'n caniatáu i'r bobl sy'n gorfod gwneud y gwaith ymarferol i gael system ar ôl 1 Ebrill y maent yn ei hadnabod cystal â'r un y maent yn ei defnyddio ar hyn o bryd, ond gan ganolbwyntio ar yr un pryd ar roi'r cymorth y gallwn ei gynnig i'r rhai sydd ei angen fwyaf.