Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Rwy'n hapus iawn yn wir i roi'r sicrwydd hwnnw. Rwyf eisiau i'r cynllun fod yn ddatblygiadol. Rwyf eisiau dod o hyd i ffyrdd newydd lle y gallwn ei wella ymhellach yn y dyfodol. Mae gennyf ddiddordeb mewn gwneud yn siŵr ein bod yn gweithio gyda Changhellor y Trysorlys mewn perthynas â'r cyhoeddiad a wnaeth yn y gyllideb ynglŷn ag ailasesiadau amlach, fel nad ydym yn cael y newidiadau mawr hyn mewn rhai rhannau o'r wlad pan fo ailbrisio ond yn digwydd unwaith bob pum mlynedd. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn croesawu'r ffaith y bydd y cymorth ychwanegol rydym yn gallu ei gynnig drwy'r cynllun rhyddhad ardrethi ar gyfer y stryd fawr bellach yn parhau yn 2018-19 i gynorthwyo'r lleoedd hynny a welodd gynnydd mawr yn eu hardrethi busnes i ymdopi â hynny dros gyfnod hwy o amser.