Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Wel, Lywydd, nid wyf yn credu bod llawer o ysbryd y Nadolig yng nghwestiwn yr Aelod, oherwydd credaf fod y cymorth ychwanegol ar gyfer darparwyr gofal plant wedi'i groesawu gan y sector hwnnw, ac mae'n gyson â pholisi'r Llywodraeth hon o allu darparu lefel estynedig o gymorth gofal plant i rieni sy'n gweithio. Rhoddir yr arian ychwanegol i awdurdodau lleol er mwyn eu helpu i barhau i ddefnyddio eu pwerau disgresiwn. Rydym yn gwybod bod eu cyllidebau o dan bwysau, ac mae rhai o'r meysydd lle mae ganddynt ddisgresiwn i gynnig rhyddhad wedi dod o dan bwysau o ganlyniad i hynny. Bydd yr arian ychwanegol hwnnw yn galluogi awdurdodau lleol i barhau i ddarparu rhyddhad wedi'i dargedu i gefnogi busnesau lleol, lle mae angen y cymorth hwnnw fwyaf.
Credaf y dylwn fod wedi crybwyll hefyd, Lywydd, fy mod, yn y cyhoeddiad, wedi'i gwneud yn glir fy mod wedi penderfynu defnyddio'r arian sydd wedi dod i Gymru yn y gyllideb i newid y ffordd y caiff trethi busnes eu cyfrifo yng Nghymru drwy'r cynnydd blynyddol—ei symud o'r mynegai prisiau manwerthu i fynegai prisiau defnyddwyr. Bydd hynny ynddo'i hun yn werth £9 miliwn i fusnesau yng Nghymru y flwyddyn nesaf, a £22 miliwn i fusnesau yn y flwyddyn wedyn, ac mae hwnnw'n gymorth ychwanegol sylweddol iawn i fusnesau yma yng Nghymru.
O ran y pwynt cyffredinol y mae Mr Hamilton yn ei godi, fodd bynnag, rwy'n falch o ddweud ein bod eisoes wedi ymrwymo i fwrw golwg mwy sylfaenol ar y dull o godi trethi yn y maes hwn. Mae pa un a fyddwn yn gallu ei wneud mewn ffordd sy'n cysylltu'r gallu i dalu â threthi a delir yn rhywbeth y byddwn yn edrych arno. Ond o ran trethiant gwerth tir, dadleuir yn aml y byddai'n well i chi, yn ymarferol, geisio ei gyflwyno ym maes ardrethi annomestig, yn hytrach na cheisio ei wneud ym maes ardrethi domestig, yn y lle cyntaf—rydym yn bendant wedi ymrwymo i ymchwil a fydd yn edrych ar y materion ymarferol y bydd yn rhaid mynd i'r afael â hwy, pe bai'r ffordd honno o godi arian yn well na'r system sydd gennym ar hyn o bryd.