Pwynt o Drefn

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:34 pm ar 13 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:34, 13 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Joyce Watson am godi hyn fel pwynt o drefn. Rwyf wedi cael y cyfle fy hun i edrych eto ar y cyfraniad a wnaed ddoe gan Gareth Bennett, ac roedd rhai o'r sylwadau yn arbennig o gas tuag at y gymuned drawsryweddol. Nid yw'r Siambr hon yn blatfform i ddifrïo dinasyddion Cymru, ac mae pawb yn haeddu ein parch a'n dealltwriaeth.

Cawsoch wybod y byddai'r pwynt o drefn hwn yn cael ei wneud, Gareth Bennett, a hoffwn roi'r cyfle i chi dynnu'r sylwadau a wnaethoch ddoe yn ôl ac ymddiheuro i'r Siambr hon ac i'r rheini sydd wedi eu cythruddo.