– Senedd Cymru am 3:32 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Pwynt o drefn—Joyce Watson.
Diolch, Lywydd. Rwyf eisiau codi pwynt o drefn mewn perthynas â'r ffrwd warthus o rethreg homoffobig a ddaeth o enau Gareth Bennett yn y Siambr hon ddoe, wrth sôn am—yn eironig—y ddadl ar adroddiad blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. A siaradodd am hawliau lleiafrifoedd fel hawliau sy'n perthyn i un unigolyn yn cael eu gwrthod i un arall, sy'n tanseilio hawliau dynol. Ond mae wedi achosi dicter, ac rwyf wedi cael galwadau ffôn a negeseuon y bore yma gan y gymuned drawsryweddol. Mae wedi achosi camddealltwriaeth pellach, ac yn ôl y gymuned honno, mae, o bosibl, wedi hybu casineb pellach yn erbyn yr unigolion hynny.
Felly, rwyf eisiau gofyn iddo ddod i'r Siambr hon, ac ystyried y geiriau y mae wedi'u dweud, ac ymddiheuro amdanynt. Ac rwyf eisiau gofyn i UKIP sicrhau na fydd yn rhaid i ni eistedd yma a gwrando ar rethreg o'r fath byth eto yn y Siambr hon, sydd mewn gwirionedd yn ymfalchïo yn ei hagwedd at gydraddoldeb. Teimlaf ei bod yn bwysig fy mod, fel Comisiynydd y Cynulliad dros gydraddoldeb a phobl, yn anfon neges glir iawn at y gymuned ehangach, os ydynt yn dod yma i weithio, neu i helpu mewn unrhyw ffordd o gwbl, y byddant yn cael eu croesawu a'u trin ag urddas a pharch llwyr.
Hoffwn ddiolch i Joyce Watson am godi hyn fel pwynt o drefn. Rwyf wedi cael y cyfle fy hun i edrych eto ar y cyfraniad a wnaed ddoe gan Gareth Bennett, ac roedd rhai o'r sylwadau yn arbennig o gas tuag at y gymuned drawsryweddol. Nid yw'r Siambr hon yn blatfform i ddifrïo dinasyddion Cymru, ac mae pawb yn haeddu ein parch a'n dealltwriaeth.
Cawsoch wybod y byddai'r pwynt o drefn hwn yn cael ei wneud, Gareth Bennett, a hoffwn roi'r cyfle i chi dynnu'r sylwadau a wnaethoch ddoe yn ôl ac ymddiheuro i'r Siambr hon ac i'r rheini sydd wedi eu cythruddo.
Diolch i chi, Lywydd. Ni fydd unrhyw ymddiheuriad. Ni fyddaf yn tynnu fy sylwadau yn ôl.
Ymhellach i'r pwynt hwnnw o drefn, Lywydd, rwy'n pryderu am eich dyfarniad heddiw, oherwydd rwyf wedi darllen yr hyn a ddywedodd Gareth Bennett ddoe—nid oeddwn yn y Siambr ar gyfer yr araith—ac mae'n ymddangos i mi mai pwynt dadl yw hwn yn hytrach na phwynt o drefn. Mae'r sylwadau a wnaed gan Gareth ddoe i'w gweld yn gysylltiedig â Bil arfaethedig yn Nhŷ'r Cyffredin, y Bil cydnabod rhywedd, a fydd yn cael ei gyflwyno gan y Llywodraeth, mae'n debyg, erbyn tymor yr hydref y flwyddyn nesaf. Os na allwn ddadlau ynghylch y materion sy'n cael eu cynnwys mewn Bil y bwriedir iddo gael ei gyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin, yna credaf fod hynny'n cyfyngu ar hawliau democrataidd y bobl yng Nghymru sy'n cael eu cynrychioli gan y rhai y maent yn eu hethol i'r lle hwn. Nawr, mae'n bosibl iawn fod yr hyn y mae Aelodau yn ei ddweud mewn areithiau yn gallu achosi dicter mewn rhai rhannau o'r gymuned, ond dyna beth y mae dadl ddemocrataidd yn aml yn ei olygu.
Hoffwn i chi, os gwnewch chi, nodi beth yn union a ddywedodd Gareth yn ei araith ddoe, pa eiriau'n union, rydych yn eu gwrthwynebu mewn perthynas â Rheolau Sefydlog y Cynulliad.
Diolch i chi am y cyfraniad hwnnw. Byddwch yn gwybod na wneuthum ymyrryd ddoe. Rwy'n cymryd hawl Aelodau Cynulliad i wneud sylwadau yn y Siambr hon nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi'n llwyr gan Aelodau eraill yn ddifrifol iawn. Ond ar ôl myfyrio'n ofalus ynghylch y geiriau hynny a ynganwyd ddoe, nid oes gennyf amheuaeth yn fy meddwl fy hun eu bod yn arbennig o gas tuag at bobl drawsryweddol, gan gyfeirio'n benodol at 'wyro oddi wrth y norm'. Rwyf wedi gwneud fy nyfarniad ar hyn. Rwyf wedi gofyn i'r Aelod ymddiheuro ac i dynnu ei sylwadau yn ôl. Mae wedi dweud na fydd yn gwneud hynny. Ni fydd yr Aelod yn cael ei alw yn y Siambr hon yn 2018 hyd nes y bydd wedi gwneud hynny.
Felly, rydym yn symud ymlaen at y datganiadau 90 eiliad—
Hoffwn godi pwynt arall o drefn—
Na, nid wyf yn derbyn pwyntiau pellach o drefn ar hyn heddiw—
Pwynt arall o drefn ynglŷn â Joyce Watson—
Rydym yn symud ymlaen at yr eitem nesaf ar yr agenda.