Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Yn gyffredinol, canfu'r ymchwiliad fod rhanddeiliaid yn teimlo bod cyfeiriad polisi strategaeth 'Coetiroedd i Gymru' Llywodraeth Cymru yn briodol. Fodd bynnag, roeddent i gyd yn galw am ei adnewyddu ar frys er mwyn cynyddu'r cyfraddau plannu yn sylweddol.
Rydym wedi gwneud 13 o argymhellion. Rwy'n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn 12 o'r argymhellion hynny naill ai yn llawn neu mewn egwyddor. Fodd bynnag, roedd y pwyllgor yn siomedig ynglŷn â gohebiaeth ddilynol â'r Gweinidog amgylchedd. Ysgrifennodd y pwyllgor at Ysgrifennydd y Cabinet yn gynnar ym mis Hydref i ofyn am eglurhad ar yr ymatebion i nifer o'r argymhellion cyn y ddadl hon. Ysgrifennodd y pwyllgor am yr eildro i bwysleisio pwysigrwydd cael eglurhad ar yr ymatebion cyn y ddadl hon. Dywedodd y Gweinidog y byddai'n ymateb yn llawn i'r materion a godwyd yn ystod y ddadl.
Gan droi'n ôl at ein hadroddiad, daw argymhellion y pwyllgor o dan dair thema gyffredinol: cynyddu plannu ac ehangu'r sector coedwigaeth fasnachol; cynyddu mynediad at goetiroedd a manteision cymunedol coetiroedd; a manteisio i'r eithaf ar y manteision amgylcheddol sy'n deillio o gael mwy o goed.
O ran plannu mwy, yr angen i gynyddu cyfraddau plannu yn sylweddol oedd y flaenoriaeth allweddol ar gyfer pob un o'n rhanddeiliaid. Yn 2010, roedd strategaeth newid hinsawdd Llywodraeth Cymru yn galw am gyfradd blannu gyfartalog o 5,000 hectar bob blwyddyn. Erbyn 2015, nid oedd cyfanswm y plannu newydd ond wedi cyrraedd 3,200 hectar. Achosodd y diffyg enfawr hwn i'r corff diwydiant ddweud wrthym fod creu coetiroedd yng Nghymru wedi bod yn fethiant trychinebus.
Beth yw'r rhwystrau i blannu? Yn ôl y sector coedwigaeth fasnachol, y rhwystr mwyaf i blannu coetiroedd oedd yr hyn a ddisgrifient fel gorfodaeth rhy drylwyr o'r rheoliadau ynghylch asesiadau o'r effaith amgylcheddol. Roeddem yn falch fod Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydnabod bod hon yn broblem, ac roeddem yn argymell y dylid gwneud cynnydd fel mater o frys.
Dywedodd ffermwyr wrthym eu bod yn cael eu rhwystro rhag plannu coetir oherwydd bod cynlluniau coetiroedd Glastir yn rhy gymhleth a chyfarwyddol ac oherwydd bod y taliadau yn isel o'u cymharu â'r taliadau a geir am dir amaethyddol. Credwn fod cyfle yn y dyfodol i ailystyried y dull o dalu, gan gynnwys taliadau am wasanaethau ecosystemau—gallai arloesedd o'r fath gymell plannu.
Ceir nifer o elfennau cadarnhaol: mae map cyfleoedd coetiroedd Glastir, sy'n dangos yr ardaloedd mwyaf addas ar gyfer creu coetiroedd newydd, yn fan cychwyn da. Mae ganddo botensial i gael ei ddatblygu'n offeryn gwneud penderfyniadau. Os gellir ei gyflinio â'r broses reoleiddio a phroses gynllunio awdurdodau lleol, gallai alluogi coetiroedd i gael eu creu ar lawr gwlad. Un enghraifft o hyn fyddai pe bai modd llacio rhwystrau rheoleiddiol ar gyfer ardaloedd a nodwyd gan y map fel yr ardaloedd mwyaf addas ar gyfer creu coetiroedd. Rhywbeth arall a allai fod yn fuddiol o bosibl, pan fydd gennym gynlluniau datblygu lleol, yw y gallent nodi tir o fewn y cynllun datblygu lleol a fyddai'n addas ar gyfer plannu coedwigoedd mewn gwirionedd. Er nad yw'n angenrheidiol ar gyfer plannu coedwigoedd yno, i bobl sy'n dymuno plannu coedwigoedd, bydd yn nodi ardaloedd a ystyrir yn addas, heb orfod mynd i chwilio drwy amrywiaeth o ddarnau eraill o wybodaeth—i gyd ar gael gan Lywodraeth Cymru. Cadwch bethau'n syml: edrychwch ar un peth a dod o hyd iddo a bydd hynny, rwy'n credu, yn gwneud gwahaniaeth mawr. Felly, mae map cyfleoedd coetiroedd Glastir yn cynnig cyfleoedd aruthrol.
Gan droi at y sector masnachol, clywsom am y cyfyngiadau a ddaeth yn sgil cyfraddau plannu ac ailblannu isel. Roeddem yn bryderus iawn ynglŷn ag effaith hyn ar ddyfodol melinau coed yng Nghymru ac ar gymunedau gwledig. Rwy'n credu ein bod i gyd yn cydnabod mai un o wendidau economi cefn gwlad Cymru yw nad ydym yn cael digon o brosesu gwerth uchel o'n deunyddiau crai. Rydym yn datblygu'r deunyddiau crai ym maes amaethyddiaeth a choedwigaeth, ond caiff yr arian mawr ei wneud gan y bobl sy'n gwneud y gwaith prosesu. Ymhellach ymlaen, caiff y gwaith hwnnw ei wneud ymhell y tu allan i gymunedau gwledig Cymru, ac yn y rhan fwyaf o achosion, ymhell y tu allan i Gymru. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gefnogi'r sector coedwigaeth fasnachol yng Nghymru i gyflawni ei botensial llawn. Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ystyried newid rheoliadau adeiladu i hyrwyddo'r defnydd o goed ym maes adeiladu.
Manteision cymdeithasol yw’r ail thema a archwilir yn adroddiad y pwyllgor. Mae gan goetiroedd rôl sylweddol i'w chwarae yn adfywio hen ardaloedd diwydiannol. Gwelodd y pwyllgor hyn yn uniongyrchol ar ymweliad â Choetir Ysbryd Llynfi ym Maesteg. Mae’r prosiect hwn yn ysbrydoliaeth go iawn: mae'n dangos beth sy’n gallu digwydd pan fydd gwirfoddolwyr ymroddedig yn cael cymorth ac arian gan wneuthurwyr penderfyniadau lleol a chenedlaethol i drawsnewid yr hyn a oedd unwaith yn dir gwastraff halogedig. Mae gennym lawer iawn o dir gwastraff halogedig yng Nghymru, felly mae'r cyfleoedd hyn yn bodoli ar draws rhan helaeth o'r ardaloedd diwydiannol hŷn yng Nghymru. Maent hefyd wedi elwa o gyllid sector preifat gan Ford. Rydym eisiau adeiladu ar hyn ac rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn asesu potensial datblygu cwmni coedwigaeth cenedlaethol i adfywio Cymoedd de Cymru.
Mae gan goed ac ardaloedd trefol fanteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd sylweddol. Mae angen gwneud mwy i gynyddu gorchudd canopi. Roeddem yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru lunio cynllun i sicrhau gorchudd coed o 20 y cant fan lleiaf erbyn 2030. Yn anffodus, mae'r argymhelliad hwn wedi'i wrthod, felly bydd yn ddiddorol clywed cynllun amgen y Gweinidog ar gyfer cynyddu gorchudd canopi yn yr ardaloedd hyn.
Yn olaf, ar fanteision amgylcheddol, y thema olaf yw creu mwy o goetiroedd. Mae’r manteision yn amlwg a dylai fod yn y prif sbardun i’n hymdrechion i blannu rhagor, o ystyried ein cyfrifoldeb statudol dros gynaliadwyedd. Gall coed liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd, gan ddal carbon mewn coed y gellir eu defnyddio. Maent hefyd yn lleihau’r perygl o lifogydd o ganlyniad i law gormodol. Dyna pam roeddem yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gymell plannu i fyny'r afon o ardaloedd sy'n tueddu i ddioddef llifogydd.
Credaf na fydd llawer o Aelodau'r Cynulliad na fyddant yn gwybod am ardaloedd a oedd yn arfer bod wedi eu gorchuddio gan goed a bod rhywun wedi penderfynu torri’r coed, naill ai i adeiladu neu i wneud i’r ardal edrych yn well neu i gael gardd well, ac yna ni allant ddeall pam fod llifogydd yn digwydd pan nad oes llifogydd wedi bod yn ystod y 100 mlynedd flaenorol. Mae coed yn wych am amsugno dŵr ac atal llifogydd rhag digwydd.
Yn dilyn Brexit, byddwn yn gallu cyfeirio arian tuag at weithgarwch mwy cynaliadwy gan berchnogion tir, gan gynnwys plannu mwy o goed. Dyna pam roeddem yn argymell y dylai cyllid yn y dyfodol fod yn seiliedig ar ganlyniadau cynaliadwy. Byddai’r pwyllgor yn hoffi diweddariad ar drafodaethau Ysgrifennydd y Cabinet gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar ddatblygu system ar gyfer cyllido newidiadau cadarnhaol ar gyfer bywyd gwyllt, ansawdd dŵr, lleihau perygl llifogydd, iechyd a llesiant.
I gloi, mae yna fanteision sylweddol i goetiroedd, ac nid ydym yn eu gwireddu’n llawn. Nid ydym yn sylweddoli beth yw'r enillion amgylcheddol a geir o liniaru newid yn yr hinsawdd, atal llifogydd, a chynyddu argaeledd coed cynaliadwy. Rydym hefyd yn colli manteision cymdeithasol coetiroedd i iechyd a llesiant y rhai sy'n byw wrth eu hymyl. Nid ydym yn sicrhau y bydd y manteision hynny ar gael i bobl sy'n byw mewn ardaloedd trefol, lle mae fwyaf o angen coed a lle y cânt eu gwerthfawrogi fwyaf. Gwyddom y gall coetiroedd adfywio ein Cymoedd ac y gallai cael mynediad atynt ddarparu cyfleoedd ar gyfer dysgu a gweithgareddau hamdden. Ond ni fydd dim o hyn yn bosibl os ydym yn parhau fel rydym yn ei wneud. Mae angen i bolisi coetiroedd fod yn llawer mwy uchelgeisiol.
Ers 2010, un rhan o ddeg o'r targed ar gyfer creu coetiroedd yn unig sydd wedi'i gyrraedd. Mae angen i iteriad nesaf y strategaeth ‘Coetiroedd i Gymru’ nodi’r newid radical yn y ffordd o feddwl y mae rhanddeiliaid yn galw amdano. Ni all fod yn ddiweddariad syml o'r polisi cyfredol sy’n gwneud dim mwy nag ystyried newidiadau deddfwriaethol diweddar, ond yn hytrach, mae’n rhaid iddo gael targedau heriol, cyraeddadwy.
Mae coed yn gwneud gwahaniaeth mawr i'n cymdeithas. Mae ffyrdd sydd â choed bob ochr iddynt yn edrych yn llawer gwell na ffyrdd heb goed bob ochr iddynt. Mae coed ar fryniau uwchben tai yn helpu i atal llifogydd, a gall coed mewn ardaloedd o amddifadedd trefol wneud i’r ardal edrych yn llawer gwell mewn gwirionedd. Os oes un peth y gallwn ei wneud heb lawer o anhawster, rwy'n credu mai cael mwy o goed yng Nghymru yw hynny, a gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn dweud mai dyna'n union y mae hi’n bwriadu ei wneud.